Wedi ei bostio ar Dydd Llun 26 Chwefror 2024
Fe fu mwy na 200 o breswylwyr, busnesau a grwpiau cymunedol lleol yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Fwyd Gyntaf Torfaen yr wythnos diwethaf.
Roedd cynhyrchwyr bwyd, cwmnïau cyflenwi, grwpiau cymunedol ac arlwywyr ymhlith y rheiny a fu’n cymryd rhan mewn digwyddiad yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon ddydd Iau 22 Chwefror , gyda’r nod o ddatblygu rhwydweithiau bwyd lleol a rhannu arferion cynaliadwy.
Yna, estynnwyd gwahoddiad i deuluoedd ac unigolion i gymryd rhan mewn amryw ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn nes ymlaen yn y dydd, gan gynnwys arddangosiadau coginio a blasu bwydydd.
Meddai James Morris, Perchennog Fferm Tŷ Poeth: “Mae wedi bod yn wych – roeddwn i wrth fy modd yn cwrdd â phobl o’r un anian, a chysylltu a phobl a busnesau newydd.
“Mae’n hyfryd gweld sut y mae pob un yn dod i gyswllt ac yn dechrau cydweithio yn y gymuned a thu hwnt.”
Meddai Terri Williams, a fu’n ymweld gyda’i mab Soal, “Doedden ni ddim yn gallu aros i gael blas ar y digwyddiad. Mae Soal eisiau tyfu ei ffrwythau a llysiau ei hun felly roedd e’ wrth ei fodd.”
Y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: “Mae mor galonogol gweld brwdfrydedd y gymuned dros hyrwyddo bwyd a gynhyrchwyd yn lleol ac arferion cynaliadwy.
“Mae’r digwyddiad wedi bod yn gyfle gwych i fusnesau, mudiadau cymunedol ac unigolion i ddod at ei gilydd i archwilio sut i greu system fwyd sy’n fwy gwydn a chynaliadwy yn Nhorfaen."
Gobeithiwyd y byddai’r Gynhadledd Fwyd, a drefnwyd yn rhan o Raglen Gwydnwch Bwyd Cyngor Torfaen, yn dod yn ddigwyddiad blynyddol.
Nod Rhaglen Gwydnwch Bwyd Torfaen, sydd wedi cael £991,426 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yw cynyddu’r bwyd fforddiadwy sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol a dod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o fynd i’r afael â thlodi bwyd trwy Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Torfaen.
Rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Gwydnwch Bwyd