Wedi ei bostio ar Dydd Iau 22 Chwefror 2024
Mae’r gwaith adeiladu wedi dechrau ar faes 3G pob-tywydd newydd yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Bydd y maes newydd sy’n costio £1.65m yn trawsnewid y cyfleusterau chwaraeon yn yr ysgol ym Mhont-y-pŵl, a bydd clybiau rygbi a phêl-droed lleol yn gallu ei hurio hefyd.
Mae’n un o’r tri maes 3G newydd sydd wedi eu cynllunio yn y Fwrdeistref a’r bwriad yw dechrau’r gwaith ar safleoedd Llantarnam ac Abersychan yn yr haf.
Ddoe, ymunodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt, a’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Richard Clark, â staff, disgyblion a sêr o fyd chwaraeon i ddathlu dechrau’r prosiect.
Meddai’r Cynghorydd Hunt: "Bydd y cyfleuster newydd hwn sydd â llifoleuadau ac sy’n addas ar gyfer pob tywydd, yn ased gwych i’r gymuned gyfan.
“Rwy’n hyfforddwr pêl-droed gwirfoddol fy hun ac yn gwybod bod ein caeau porfa yn cael eu canslo’n rheolaidd oherwydd y tywydd. Felly fe fydd y maes 3G newydd sy’n addas at bob tywydd yn rhoi cyfleoedd gwell i’r ysgol a’r gymuned i chwarae trwy gydol y flwyddyn, 7 niwrnod yr wythnos, a gyda’r hwyr ymhob tywydd.”
Meddai Luca Hoole, a oedd yn arfer mynychu’r ysgol ac sydd nawr yn chwarae i dîm Bristol Rovers: "Bydd y maes 3G hwn yn rhagorol i’r disgyblion. Mae’r ysgol wedi newid llawer ers i fi fod yma rhwng 2013 a 2018 a bydd hyn yn beth da i ddisgyblion."
Ychwanegodd Caris Morgan, sy’n chwarae pêl-rwyd gyda thîm Plu Cymru: "Bydd y cyfleuster newydd hwn yn rhoi mynediad di-gyfyng i’r plant i faes 3G trwy gydol y flwyddyn. Byddai wedi bod yn braf cael mynediad at gyfleuster fel hyn pan oeddwn i yma."
Meddai’r cyn-bennaeth Addysg Gorfforol, Sioned Roberts, sef yr un cyntaf i ofyn am faes sy’n addas at bob tywydd yn yr ysgol: "Mae yna 35 mlynedd ers i ni ofyn am faes sy’n addas at bob tywydd, ac felly mae’n gwireddu breuddwyd.
"Fe fydd yn creu cyfleoedd i ddisgyblion yr ysgol ond hefyd i’r gymuned leol."
Ychwanegodd y dirprwy bennaeth, Gareth Jones: "Mae’r datblygiad hwn yn garreg filltir bwysig yn ymrwymiad yr ysgol i ddarparu cyfleusterau chwaraeon rhagorol ar gyfer ei myfyrwyr.
"Bydd y gwaith o adeiladu’r maes 3G hefyd yn golygu bod ei fuddion yn ymestyn y tu hwnt i gatiau’r ysgol, ac yn cynnig adnodd gwerthfawr i’r gymuned leol ehangach ac i glybiau chwaraeon. Yn ogystal, gallai’r maes 3G fod yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau cymunedol, twrnameintiau a rhaglenni allgymorth, gan ddod ag unigolion o bob oed a chefndir at ei gilydd."
McArdle Sport Tech sy’n ymgymryd â’r gwaith ar y maes 3G a’r bwriad yw ei gwblhau erbyn mis Medi eleni.
Fe fydd yn cynnwys llifoleuadau, mynediad i’r anabl, ffensys newydd a llwybr ar gyfer y rheiny sy’n gwylio.
Cafodd ei ariannu gan fenter Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru sy’n anelu at gefnogi un miliwn o bobl i siarad Cymraeg.