Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Rhagfyr 2024
Os ydych chi'n poeni am goginio cinio Nadolig yr wythnos nesaf - meddyliwch am dîm arlwyo ysgolion y Cyngor.
Y mis hwn, mae'r tîm wedi gweini dros 7,000 cinio twrci ar draws 26 ysgol gynradd a dwy ysgol uwchradd.
Mewn ymdrech ryfeddol, paratôdd y tîm arlwyo dros 901kg o dwrci a 2,731kg o lysiau - mae hynny'n ddigon i fwydo pentref bach am sawl diwrnod.
Meddai Faye, disgybl ym Mlwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Padre Pio, a gafodd ei chinio Nadolig ddydd Mercher: "Gwnaeth ein cogyddion waith da dros ben yn coginio ein cinio Nadolig."
Meddai Euan o Flwyddyn 5, "Roedd y bwyd yn fendigedig, ac roedd y stwffin yn anhygoel. Gawson ni lot o hwyl hefyd yn canu caneuon Nadolig gyda'n ffrindiau."
Meddai Phemelo o Flwyddyn 4, "Roedd y cinio yn flasus dros ben! Y rhan orau yn bendant oedd y twrci."
Eleni, mae’r gwasanaeth hefyd wedi arlwyo ar gyfer partïon Nadolig niferus yn yr ysgolion ac wedi trefnu gwledd Nadoligaidd ar gyfer cyn-filwyr y Lluoedd Arfog yng Nghwmbrân.
Meddai Tracy James, Uwch-reolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Arlwyo Torfaen, "Hoffwn ddiolch i'n timau arlwyo ysgolion ymroddgar a'r holl staff anhygoel yn ein hysgolion sy'n cefnogi'r disgyblion yn ystod amser cinio trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai ohonynt wedi neilltuo 20,30 neu fwy o flynyddoedd i brydau ysgol.
"Unwaith eto, mae pawb wedi camu i'r adwy i drefnu'r cinio Nadolig ac i ddod â hwyl yr Ŵyl i'n holl ddisgyblion, a allai fod yn mynd hebddo fel arall. Dymunwn Nadolig gwych a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd".
Fe fu’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, hefyd yn canmol ymdrechion y tîm. "Hoffwn ddiolch i'n gwasanaeth arlwyo, sydd wedi ennill gwobrau lu, am eu gwaith gwych yn ein hysgolion y mis hwn – a thrwy gydol y flwyddyn."
Arlwyo Torfaen oedd un o'r gwasanaethau arlwyo cyntaf yng Nghymru i gyflwyno'r ymgyrch prydau ysgol am ddim i bob ysgol gynradd yn 2022.
Mae pob pryd ysgol yn gytbwys o ran maeth ac yn dod o ffynhonnell gynaliadwy lle bo hynny'n bosibl.
Edrychwch i weld beth sydd ar y fwydlen yn y Flwyddyn Newydd trwy fynd i wefan y Cyngor.