Gwaith gorsaf reilffordd wedi'i gwblhau

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Rhagfyr 2024
Ppool railway station

Mae gwaith i fynd i'r afael â phroblemau hanesyddol gyda'r platfform yng Ngorsaf Reilffordd Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd wedi'i gwblhau.

Cafodd gwaith i ailraddio ac ail-wynebu'r platfform ei wneud fel rhan o brosiect gwerth £7.1m i drawsnewid yr orsaf a chreu cyfleuster parcio a theithio newydd.

Roedd y prosiect i fod cael ei gwblhau yn yr haf, ond mae'r gwaith ychwanegol ynghyd â materion annisgwyl yn ystod y gwaith adeiladu wedi oedi'r agoriad.

Y gobaith yw y bydd Network Rail yn gallu agor y cyfleuster newydd fis nesaf, os bydd Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd Llywodraeth y DU yn cymeradwyo.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt: "Mae hwn wedi bod yn brosiect eithriadol o heriol sydd wedi cynnwys nifer o sefydliadau’n cydweithio i greu canolfan drafnidiaeth ranbarthol newydd, fel rhan o gynllun Metro De Cymru.

"Mae'n wych gweld bod y datblygiad wedi cyrraedd y camau olaf ac rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn agor yn gynnar y flwyddyn nesaf.

"Bydd y cyfleuster newydd nid yn unig o fudd i bobl sydd eisoes yn defnyddio'r orsaf ond y gobaith yw y bydd yn annog eraill i'w defnyddio hefyd. Bydd cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r orsaf yn golygu y gallwn lobïo am fwy o drenau, a fydd o fudd i gymudwyr a'r rhai sydd am deithio'n fwy cynaliadwy."

Bydd y cyfleuster parcio a theithio integredig newydd yn cynnwys 11 o gilfannau parcio hygyrch, 3 gyda gwefru CT, 11 cilfan gwefru CT, 129 o fannau defnydd cyffredinol, 3 cilfan ar gyfer gollwng neu dacsis, 1 cilfan bws, 6 cilfan beic modur ac 8 lle diogel newydd i feiciau, ar ben y 20 lle presennol i feiciau, gyda mynediad trwy ffordd newydd oddi ar yr A4042.

Bydd pont droed a lifft newydd yn cysylltu'r ardal parcio a theithio â'r orsaf.

Mae Cyngor Torfaen wedi cyfrannu £1.5m i'r prosiect, gyda £5.6m yn dod gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Dyma fydd un o gynlluniau Metro Plus cyntaf Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gael eu cyflawni, fel rhan o gynlluniau i greu system Metro De Cymru.

I gael gwybod mwy am ailddatblygiad Gorsaf Reilffordd Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/12/2024 Nôl i’r Brig