Hwyl yr Ŵyl yn rhoi hwb i bresenoldeb

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2024
CHS Xmas Cym

Mae disgyblion a staff Ysgol Uwchradd Cwmbrân yn cyfri'r dyddiau tan y Nadolig gyda llond lle o weithgareddau Nadoligaidd difyr.

Aethon nhw ati i gyfrif 12 diwrnod tymor y Nadolig i ddechrau ar hwyl yr ŵyl, gyda gwobrau dyddiol am bresenoldeb ac ymddygiad da, yn ogystal â gweithgareddau Nadoligaidd amser cinio.

Yr wythnos hon, bydd disgyblion sy'n cyrraedd yr ysgol ar amser yn cael tocynnau raffl am ddim, gyda chyfle i ennill llond lle o wobrau, gan gynnwys beic a thalebau rhodd.

Cafwyd gwasanaethau gwobrwyo hefyd i ddisgyblion a theuluoedd a, ddydd Gwener, bydd staff yn cynnal sioe Nadolig.

Mae'n dilyn egstrafagansa Nadoligaidd cyntaf yr ysgol y llynedd a arweiniodd at gynnydd o 13 y cant yn y ffigurau presenoldeb ym mhythefnos diwethaf y tymor, o 66 y cant ym mis Rhagfyr 2022 i 79 y cant fis Rhagfyr diwethaf.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd cyfartaledd presenoldeb yn 88 y cant.

Meddai’r Pennaeth, Matthew Sims: "Ein nod yw gorffen y tymor gyda phwrpas a dathlu trwy drefnu gweithgareddau sy'n gwbl gynhwysol i gydnabod cyraeddiadau ein disgyblion gwych a chynnwys cymuned ehangach yr ysgol.

"Rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau bod disgyblion yn bresennol yn yr ysgol bob dydd, eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo am eu gwaith caled trwy gydol y tymor, a'u bod yn mwynhau profiadau cadarnhaol cofiadwy yn yr ysgol."

Meddai Ashley sy'n ddisgybl ym Mlwyddyn 11: "Y llynedd roedd y sioe Nadolig yn hwyl ac roedd wedi annog mwy o bobl i ddod i'r ysgol oherwydd roedden ni'n gwybod y byddai rhywbeth gwahanol yn digwydd.  Rwy'n credu y dylai'r ysgol barhau i gynnig gweithgareddau difyr ar ddiwedd y tymor."

Ychwanegodd Ayesha, sydd hefyd ym Mlwyddyn 11: "Mae unrhyw weithgaredd sy'n cael ei drefnu gan yr ysgol sy'n braf neu'n hwyl yn mynd i annog disgyblion i fynychu.  Mae'r disgyblion yn teimlo'n gyffrous iawn am y diwrnod ‘dim gwisg ysgol’ hefyd."

Yn ogystal â gwobrau am bresenoldeb da, mae athrawon wedi bod yn rhoi bocsys o siocled i ddisgyblion yn eu grwpiau tiwtor sydd wedi arddangos gwerthoedd yr ysgol trwy gydol y tymor.

Mae'r adran Technoleg hefyd wedi cynhyrchu bôbls wedi'u gwneud â llaw a fydd yn cael eu rhoi i ddisgyblion sy'n cael gwobrau cydnabyddiaeth a, ddydd Iau, bydd yr ysgol yn cynnal diwrnod siwmperi Nadolig gyda’r elw yn mynd i elusen leol.

Daw'r wythnos i ben gyda pherfformiad staff ddydd Gwener. Y llynedd roedd perfformiadau gan "The Spice Girls" ac "East 17" (yn y llun).

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Hoffwn ddiolch i'r holl staff addysgu a staff yr ysgolion am eu gwaith ar yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Mae'n wych gweld ysgolion a chymunedau'n dod at ei gilydd i dreulio amser gyda'i gilydd, i gael hwyl ac i ddathlu'r Nadolig. Rwy'n dymuno Nadolig Llawen iawn i'r holl staff, disgyblion a theuluoedd ac edrychaf ymlaen at eu croesawu nôl ar ddechrau'r tymor newydd."

Diwygiwyd Diwethaf: 18/12/2024 Nôl i’r Brig