Ysgolion yn ymuno i daclo sbwriel

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024
Woodlands Community litter pickers

Mae pwyllgorau eco wyth ysgol gynradd wedi cofrestru ar gyfer ymgyrch Cadwch Gymru'n Daclus i helpu i gadw cymunedau yn rhydd o sbwriel.

Mae ysgolion cynradd Cwmffrwdoer, George Street, Pen-y-garn a Thref Gruffydd, ym Mhont-y-pŵl, wedi dod yn Barthau Di-sbwriel, ynghyd ag ysgolion cynradd Woodlands, Llantarnam a Ffederasiwn Blenheim Road a Choed Efa yng Nghwmbrân.

Byddan nhw nawr yn codi sbwriel yn rheolaidd o amgylch tiroedd eu hysgolion.

I ddathlu, mae'r cyngor yn rhoi pecynnau casglu sbwriel i bob ysgol, diolch i fenter ar y cyd rhwng timau teithio llesol a sbwriel a thipio anghyfreithlon y cyngor.

Derbyniodd Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands, yng Nghwmbrân Uchaf, eu pecyn casglu sbwriel yn gynharach y mis hwn.

Dywedodd un o’r athrawon, Gemma Dickerson: "Mae ein rhyfelwyr eco bob amser yn chwilio am ffyrdd o wneud cymuned ein hysgol yn lle gwyrddach.

"Mae teithio llesol hefyd yn uchel ar ein hagenda felly mae prosiect sy'n cyfuno'r ddau yn berffaith. Allwn ni ddim aros i fwrw ati a chreu Ysgol Woodlands glanach a gwyrddach."

Dywedodd Charlie, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 5: "Bydd casglu sbwriel yn helpu ein hysgol a'n cymuned leol i fod yn wyrdd ac yn iach ac i edrych yn llawer gwell. Yna bydd pobl eisiau cerdded i'r ysgol."

Ychwanegodd Elliot, sydd hefyd ym Mlwyddyn 5: "Rydym am gadw ein hardal leol yn lân ac yn daclus fel y gall pawb ei mwynhau."

Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae hwn yn brosiect cyffrous sy'n canolbwyntio ar wella ymddangosiad cymunedau lleol i annog mwy o bobl i ystyried cerdded neu feicio ar deithiau byr.

"Mae'n ategu'r gwaith y mae ein timau yn ei wneud i gefnogi pwyllgorau eco ein hysgolion lleol a helpu ysgolion i gyflawni eu targedau teithio llesol.

"Mae'r bobl ifanc yma’n esiampl wych i ni i gyd wneud ein rhan wrth helpu i gadw ein cymunedau'n rhydd rhag sbwriel."

Mae'r prosiect Parthau Di-sbwriel teithio llesol yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae tua naw Parth Di-sbwriel yn Nhorfaen, gan gynnwys busnesau ac Ysgol Gynradd Croesyceiliog.

Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru fel Parth Di-sbwriel, e-bostiwch oliver.james@torfaen.gov.uk. 

Gall unigolion a grwpiau sydd â diddordeb mewn trefnu eu casgliadau sbwriel eu hunain gael benthyg offer am ddim gan un o Hybiau Codi Sbwriel y Cyngor.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2024 Nôl i’r Brig