Fforymau ieuenctid Gwent yn uno

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024
IMG_7752

Mae cynrychiolwyr o fforymau ieuenctid ledled Gwent wedi cytuno i gydweithio'n agosach.

Cynhaliodd dirprwy gadeiryddion Fforwm Ieuenctid Torfaen, Boyd Painter a Harry Legge, y cyfarfod rhanbarthol cyntaf yn y Ganolfan Ddinesig, ym Mhont-y-pŵl, yr wythnos hon.

Croesawon nhw gynrychiolwyr o fforymau ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili a thrafod y pynciau yr oedd gan eu fforymau ddiddordeb ynddynt, megis bwlio, iechyd meddwl, anwedd a sbwriel.

Fe wnaethant rannu enghreifftiau o waith eu fforymau a thrafod sut i gyrraedd mwy o bobl ifanc, megis trwy gynghorau ysgol, fforymau iau a'r cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Boyd: "Roedd yn wych cydweithio gyda'r fforwm ieuenctid rhanbarthol. Buom yn trafod llawer o faterion dybryd sy'n wynebu'r bobl ifanc yn Nhorfaen a rhanbarth ehangach Gwent.

"Rydym yn gobeithio cydweithio mwy yn y dyfodol i gydweithio i wella bywydau pobl ifanc sy'n byw yng Ngwent."

Dywedodd Philip Wilson, Swyddog Cyfranogiad ac Ymgysylltu Plant a Phobl Ifanc y cyngor: "Mae'r fforwm ieuenctid rhanbarthol yn ffordd wych i fforymau ieuenctid lleol drafod materion sy'n gyffredin i bobl ifanc yn eu hardaloedd ac i rannu syniadau.

"Mae hefyd yn llwyfan da ar gyfer deall sut i leisio eu barn ar lefel genedlaethol, megis drwy Senedd Ieuenctid Cymru neu Senedd Ieuenctid y DU."

Cytunodd y grŵp i gyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Bydd y cyfarfod rhanbarthol nesaf, fydd yn cynnwys cynrychiolwyr Casnewydd a Sir Fynwy, yn cyfarfod yn y gwanwyn.

Cymeradwyodd yr Aelodau y strategaeth ddrafft a fydd yn mynd i'r Cabinet yn y Flwyddyn Newydd.

Am fwy o wybodaeth am Fforwm Ieuenctid Torfaen, cliciwch ar y ddolen isod neu e-bostiwch philip.wilson@torfaen.gov.uk

Yn gynharach yn yr wythnos, trafodwyd drafft Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y cyngor gan aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Trawsbynciol, Adnoddau a Busnes, a fynychwyd gan aelodau'r fforwm ieuenctid Harry Legge a Jacob Young.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2024 Nôl i’r Brig