Apêl Siôn Corn yn well na'r disgwyl

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 12 Rhagfyr 2024
Santa Appeal Photo

Mae mwy na 1,200 o anrhegion a gwerth 60 hamper o fwyd wedi'u rhoi i Apêl Siôn Corn Torfaen.

Apêl eleni yw’r mwyaf llwyddiannus ers pandemig Covid felly.

Mae Apêl Siôn Corn Torfaen, sydd nawr yn ei 19eg flwyddyn, yn casglu anrhegion a rhoddion bwyd i blant sy'n cael eu cefnogi gan wasanaethau plant y cyngor, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, Gwasanaeth Cymorth i Bobl Ifanc Torfaen (TYPSS) a Theuluoedd yn Gyntaf.

Bydd y rhoddion yn cael eu dosbarthu i tua 300 o blant dros yr wythnosau nesaf, mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Bydd y basgedi’n eu rhoi i bobl ifanc 16+ oed sy'n byw yn annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rwy’n rhyfeddu bob tro wrth haelioni ac ysbryd y cyhoedd yn Nhorfaen. Bydd eich cefnogaeth i'n hapêl yn dod â llawenydd y Nadolig i lawer o blant sydd ei angen fwyaf.

"Ar ran pawb sy'n rhan o'r apêl, hoffwn ddiolch i drigolion a busnesau lleol a roddodd eleni, ac i'r lleoliadau cymunedol niferus a agorodd eu drysau i gefnogi'r apêl trwy gymryd rhoddion."

Ychwanegodd Kate Phillips, Rheolwr Tîm TYPSS: "Unwaith eto rydym wedi ein syfrdanu gan y rhoddion i'r bobl ifanc yr ydym wedi'u cefnogi eleni. Mae'r anrhegion a'r basgedi wir yn golygu llawer iawn iddyn nhw a byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Diolch i bawb a gyfrannodd."

Bydd Apêl Siôn Corn Torfaen yn digwydd eto’r flwyddyn nesaf, felly cadwch lygad ar wefan Torfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2024 Nôl i’r Brig