Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024
Cafwyd dros 500 o geisiadau yng nghystadleuaeth flynyddol cerdyn Nadolig Gwasanaeth Chwarae Torfaen eleni.
Yr wythnos hon, cafodd 37 o ddyluniadau eu rhoi ar y rhestr fer a gwahoddwyd y plant i ddigwyddiad dathlu yn swyddfeydd Cynghorau Cymuned Cwmbrân a Phont-y-pŵl lle cyflwynwyd pecynnau chwarae a bocs danteithion iddynt.
Bydd yr enillwyr, Freya Lawton, 9 oed, o Ysgol Gynradd Nant Celyn a Zoe Raine, 9 oed, o Ysgol Gynradd Y Dafarn Newydd nawr yn gweld eu darluniau’n cael eu troi’n gardiau Nadolig, a byddant yn cael eu hanfon at yr holl blant a gymerodd ran.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae'r creadigrwydd a'r brwdfrydedd a ddangoswyd gan y plant eleni wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae'n hyfryd gweld eu dyluniadau'n dod yn fyw fel cardiau Nadolig. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran am eu hymdrechion gwych!
"Mae ein Gwasanaeth Chwarae'n parhau i ddarparu cyfleoedd chwarae cynhwysol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc, gan gefnogi gweledigaeth y cyngor o wneud Torfaen yn fan lle mae pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd."
Cyflwynwyd y gwobrau gan Arweinydd Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl, Gaynor James, ac Arweinydd Cyngor Cymuned Cwmbrân, Leanne Lloyd-Tolman.
Dywedodd y Cyng. James: "Am ganlyniad gwych a darluniau anhygoel y mae plant Pont-y-pŵl wedi'u creu. Mae'n wirioneddol syfrdanol gweld lefel y dalent sydd gennym yn ein cymuned."
Ychwanegodd y Cynghorydd Lloyd-Tolman: "Mae'r gystadleuaeth cardiau yn gyfle gwych i'n pobl ifanc arddangos eu creadigrwydd, eu talent a'u dychymyg. Mae'n ddathliad o amrywiaeth, lle mae safbwynt unigryw pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i groesawu."
Daw'r dathliad wrth i'r Gwasanaeth Chwarae gyhoeddi amrywiaeth o sesiynau newydd i'w cynnal yn y Flwyddyn Newydd.
Cynhelir sesiynau Chwarae a Gweithgareddau ar 2 a 3 Ionawr, yn Stadiwm Cwmbrân ar gyfer plant rhwng 8 a 12 oed.
Bydd sesiynau Chwarae a Seibiant, ar gyfer plant rhwng 5 a 18 oed, a gwersylloedd Hwyl a Lles i blant rhwng 5 ac 11 oed, hefyd yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau yn y fwrdeistref.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â torfaenplay@torfaen.gov.uk neu ewch i Chwarae Torfaen Play ar Facebook a @Torfaenplayserv ar Twitter.