Gwirio signal ffôn symudol am ddim

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024

Mae'r Cyngor wedi ffurfio partneriaeth gyda chwmni technoleg i alluogi trigolion a busnesau i ddarganfod pa gwmnïau ffôn symudol sy'n cynnig y ddarpariaeth signal orau yn eu hardal.

Mae’r teclyn o’r enw Streetwave Mobile Coverage Checker yn rhad ac am ddim ac yn hawdd ei ddefnyddio - cliciwch ar y ddolen Streetwave: https://app.streetwave.co/coverage-checker/58 a rhowch y cod post yr ydych chi am ei wirio.

Yna, cewch restr o’r rhwydweithiau ffôn symudol sy'n cynnig y cyflymderau lawrlwytho a lanlwytho gorau o fewn radiws o 30 metr.

Meddai’r Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol dros Lywodraethu ac Adnoddau Corfforaethol: "Mae'r teclyn arloesol hwn yn ddatblygiad pwysig yn ein hymdrechion i gefnogi trigolion a busnesau yn Nhorfaen, ac mae'n cyd-fynd â'r Amcan Llesiant yn ein Cynllun Sirol i wella cysylltedd digidol.

"Trwy ddarparu’r wybodaeth gywir a diweddaraf am signalau ffonau symudol, rydym yn grymuso ein cymuned i wneud penderfyniadau gwybodus am ddarparwyr eu rhwydwaith symudol."

Ychwanegodd George Gibson, Cyfarwyddwr Streetwave: "Rydym wrth ein bodd i ffurfio partneriaeth gyda Chyngor Torfaen ar gyfer y prosiect arloesol hwn. Bydd y data cynhwysfawr a gasglwyd o fudd i drigolion a busnesau a hefyd yn gosod safon newydd ar gyfer dadansoddi signalau symudol ar draws y DU."

Yn rhan o'r prosiect hwn, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, casglodd Streetwave ddata am gysylltedd amser real ar gyfer EE, O2, Three a Vodafone.

Mae'r prosiect yn cefnogi Strategaeth Cwsmeriaid Digidol yn Gyntaf y Cyngor, sy'n ceisio cefnogi pobl i roi gwybod am faterion, gofyn am wasanaethau neu wneud taliadau ar-lein os ydyn nhw’n gallu gwneud hynny.

Am wybodaeth am wasanaethau ar-lein, ewch i wefan y Cyngor.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/12/2024 Nôl i’r Brig