Disgyblion yn mynd o'r ystafell ddosbarth i'r ystafell fwrdd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 6 Rhagfyr 2024
Llantarnam Burtons Visits

Aeth disgyblion o Ysgol Gynradd Llantarnam o’r ystafell ddosbarth i’r ystafell fwrdd wrth ymweld  â chwmni Burtons Biscuits yr wythnos hon.

Cafodd 30 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 daith o amgylch y ffatri yng Nghwmbrân, ble gwylion nhw’r prosesau sydd ynghlwm wrth greu, pecynnu a dosbarthu bisgedi.

Yna aeth y plant i'r ystafell fwrdd lle cawson nhw’r dasg o ddyfeisio syniadau arloesol i wella'r broses o wneud bisgedi a strategaethau marchnata newydd.

Cawson nhw gyfle hefyd i flasu Wagon Wheels, bisgedi a bysedd siocled a gynhyrchwyd yn y ffatri, a mynd â bag o bethau da a chrys-T adref.

Dywedodd Cora: "Roeddwn wrth fy modd â’r ddolen Jammie Dodger ar ddrws yr ystafell byffer, roeddwn i'n meddwl ei fod mor cŵl."

Ychwanegodd Oscar: "Dysgais am yr holl swyddi gwahanol sydd gan y staff yno, hyd yn oed y bobl sy’n gwasgu bisgedi’n fflat - pwysig iawn."

Dywedodd Evie: "Roedd y diwrnod yn hynod o ddiddorol, a doeddwn i ddim yn disgwyl i'r ffatri fod mor fawr ag y mae."

Caniataodd yr ymweliad, a drefnwyd gan y Cyng. David Thomas, i ddisgyblion ddysgu mwy am wyddoniaeth a thechnoleg, yn ogystal â chael profiadau’n gysylltiedig â gwaith sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm cenedlaethol.

Dywedodd y Pennaeth, Laura Perrett: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu unigryw i'n disgyblion sy'n ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

"Roedd yr ymweliad hwn â Burtons Biscuits yn galluogi’n disgyblion i ddefnyddio’u creadigrwydd a'u sgiliau datrys problemau yn y byd go iawn, gan wneud dysgu'n hwyl ac yn effeithiol."

Sefydlwyd Cwmni Burtons Biscuits ym 1935 ac mae ganddo chwe safle gweithgynhyrchu ledled y DU. Mae ffatri Cwmbrân yn unig yn cynhyrchu tua 45,000 tunnell o fisgedi bob blwyddyn.

Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae gwibdeithiau fel hyn yn hanfodol er mwyn cynnig addysg ehangach i blant. Nid yn unig maen nhw’n gwneud yr ysgol yn fwy pleserus a diddorol ond hefyd maen nhw’n cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb ysgol. A diolch byth, doedd dim rhaid i'r disgyblion wynebu Arglwydd Alan Sugar o The Apprentice!"

Diwygiwyd Diwethaf: 06/12/2024 Nôl i’r Brig