Wedi ei bostio ar Dydd Iau 5 Rhagfyr 2024
Mae aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo Polisi Addysg a Gorfodi Gwastraff a fydd yn dod i rym yn 2025.
Yn ôl adroddiad y cabinet, bydd y polisi’n helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu yn y fwrdeistref trwy leihau faint o ailgylchu sy'n cael ei roi yn y biniau clawr porffor. Mae modd ailgylchu tua 62% o'r hyn y mae trigolion yn ei roi yn eu biniau clawr porffor.
Bydd yn canolbwyntio ar drigolion sy'n gorlenwi eu bin clawr porffor neu'n gadael bagiau sbwriel wrth ochr eu bin, yn ogystal â'r rhai nad sy’n ailgylchu.
Bydd tîm o swyddogion addysg a gorfodaeth yn cysylltu â thrigolion yn bersonol ac yn ysgrifenedig i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth, gyda chamau gorfodi yn cael eu cymryd fel y dewis olaf.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Yn 2019, gwnaethom ddatganiad o argyfwng newid hinsawdd a natur ac un ffordd o leihau ein heffaith yw cynyddu'r swm rydym yn ei ailgylchu.
"Hoffem ddiolch i drigolion sydd eisoes yn ailgylchu cymaint ag y gallant. Ffocws y polisi hwn yw addysgu a chefnogi'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd ailgylchu, gyda chamau gorfodi yn cael eu cymryd fel y dewis olaf.
"Ar ôl llawer o waith caled dros y blynyddoedd diwethaf llwyddodd Torfaen i gyrraedd y gyfradd ailgylchu statudol o 64 y cant, ond, mae angen i ni gyrraedd y targed nesaf o 70 y cant erbyn 2024-2025 neu gallai'r awdurdod gael dirwy gan Lywodraeth Cymru."
Yn 2022, argymhellodd yr aelodau craffu y dylai'r gwasanaeth wneud sawl newid cyn cyflwyno polisi gorfodi, gan gynnwys cyflwyno cerbydau ailgylchu newydd a gwahanu cardbord.
Mewn arolwg Codi'r Gyfradd yn 2023, dywedodd 56% o drigolion y byddent yn cefnogi camau gorfodi yn erbyn y rhai nad ydynt yn ailgylchu.
Cymeradwyodd aelodau'r Cabinet adroddiad ar wahân hefyd i benodi contractwr i weithredu Canolfan Ailgylchu Cartrefi yn y Dafarn Newydd.
Mae'r cytundeb presennol yn dod i ben ym mis Ebrill 2025. Bydd y cytundeb newydd am bum mlynedd gyda'r opsiwn o estyn am dair blynedd.
Darllenwch yr adroddiad addysg a gorfodi gwastraff
Gwyliwch recordiad o'r cyfarfod
Dysgwch fwy am ailgylchu yn Nhorfaen