Wedi ei bostio ar Dydd Iau 5 Rhagfyr 2024
Mae aelodau'r cabinet wedi cymeradwyo cynllun i ddefnyddio peth o gyllid Llywodraeth y DU a ddyrannwyd i ganol tref Pont-y-pŵl i uwchraddio rhan o rwydwaith carthffosydd y dref.
Mae bron i £1 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer gwelliannau canol y dref, diolch i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Bydd hyd at £528,000 yn cael ei ddefnyddio nawr i uwchraddio'r rhwydwaith carthffosydd o dan Hanbury Road, a fydd yn hanfodol ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn yr ardal yn y dyfodol.
Mewn adroddiad i'r cabinet ddydd Mawrth, dywedodd David Leech, Cyfarwyddwr Strategol ar gyfer Oedolion a Chymunedau: "Mae'r gwaith dylunio manwl ar gyfer y Gronfa Codi'r Gwastad wedi tynnu sylw at fater capasiti sy'n dod i'r amlwg yn ymwneud â'r rhwydwaith carthffosiaeth yn ardal Hanbury Road ym Mhont-y-pŵl.
"Heb wella’r rhwydwaith carthffosydd, mae'n debygol y bydd cyfyngu ar brosiectau adfywio yn yr ardal yn y dyfodol."
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt: "Y gwir amdani yw ein bod naill ai'n buddsoddi yn y prosiect hwn neu'n rhwystro adfywio yn y rhan honno o'r dref yn y dyfodol."
Eglurodd yr adroddiad y gofynnwyd i Ddŵr Cymru gyfrannu at gostau'r gwaith. Roedden nhw’n cydnabod y byddai methu â buddsoddi yn atal rhagor o weithgarwch adfywio ond ni chafwyd cytundeb i ariannu.
Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn y flwyddyn newydd a chymryd hyd at 10 wythnos. Bydd dyddiadau’r cau yn cael eu cadarnhau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae disgwyl i ddarn o Hanbury Road, ger Eglwys Sant Iago, fod ar gau am hyd at wyth wythnos.
Bydd gwyriadau ar waith ac mae trefniadau eraill yn cael eu gwneud gyda chwmnïau bysiau.
Byddwn hefyd yn cysylltu â busnesau a phreswylwyr y mae'r cau yn effeithio arnynt. Cedwir mynediad gyfer trigolion St. James’ Field.
Bydd gyrwyr yn gallu cael mynediad i faes parcio Glantorvaen Road o ben gogleddol y dref.
Disgwylir y bydd mynediad i gerddwyr drwy'r Gerddi Eidalaidd yn cael ei gadw.
Bydd angen cau'r toiledau am sawl wythnos tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw. Bydd toiledau ar gael ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.
Mae Dydd Sadwrn Bwyd Stryd Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, rhaglen ddigwyddiadau'r haf a grantiau ar gyfer busnesau newydd ar y stryd fawr ymhlith y cynlluniau eraill a gefnogir gan brosiect canol y dref y CFfG.