Sgwrs dda dros bren! Meinciau newydd yn tanio sgwrs

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024
Bench story

Mae tri mainc gymunedol wedi cael eu dylunio a'u saernïo gan grŵp cymorth cymheiriaid i ddynion, ac mae’r un gyntaf newydd gael ei dadorchuddio y tu allan i Glwb Rygbi Tal-y-waun yr wythnos ddiwethaf.

Ysbrydolwyd menter Wellbeing in the Workshop gan MenTalk – sef grŵp a sefydlwyd gan raglen Creu Cymunedau Cryf y Cyngor i roi lle i ddynion i gwrdd, sgwrsio a chefnogi ei gilydd.

Nod y fenter wyth-wythnos, a ariannwyd trwy brosiect Lluosi’r Cyngor, oedd magu hyder a sgiliau rhifedd dynion trwy waith coed.

Gobeithir y bydd y meinciau yn ysbrydoli sgyrsiau cymunedol ac yn helpu i chwalu rhwystrau iechyd meddwl.

Meddai Matthew Wicks, 34, o Drefddyn, sy'n aelod o'r grŵp: "Mae'r meinciau yn dyst i waith caled ac ymroddiad pawb sy'n gysylltiedig. Maen nhw'n symbol o'n hymrwymiad i gefnogi ein gilydd a'r gymuned ehangach."

Arweinir y prosiect Wellbeing in the Workshop gan Jon Clarke o Hwb Cymunedol Coedwedd, yng Ngarndiffaith. Mae'n rhedeg bob prynhawn dydd Mercher rhwng 12:30pm a 3:30pm.

Cyn bo hir, bydd dwy fainc ychwanegol yn cael eu gosod ym Mlaenafon a Chwmbrân, a bydd y fainc yng Nghwmbrân er cof am Gary Kent, aelod o'r grŵp a fu farw yn gynharach eleni.

Meddai Gordon Jones, Swyddog Meithrin Gallu gyda rhaglen Creu Cymunedau Cryf: "Mae pawb sydd wedi gweithio ar y fainc wedi bod yn wych, ac rwy’n diolch o waelod calon iddyn nhw. Maen nhw i gyd yn wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser eu hunain am eu bod yn teimlo mor angerddol dros y prosiect.

"Mae'r prosiect wedi bod yn ymdrech gymunedol go iawn. Hoffwn ddiolch i Glwb Rygbi Tal-y-waun am ddarparu'r lleoliad ar gyfer y fainc, i Travis Perkins am y deunyddiau, i adeiladwyr Ian Mahoney a chadeirydd y clwb rygbi, Jeff Clutterbuck, sydd wedi rhoi o’u hamser i osod y sylfaen, a Daryl Jones o Murrays Minibuses a fu’n ddigon caredig i gludo’r fainc am ddim."

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft o bŵer y gymuned a sut y gall mentrau fel hyn gysylltu Torfaen. Mae'n cyd-fynd yn berffaith â Chynllun Sirol ac amcanion llesiant ehangach y Cyngor, sy'n canolbwyntio ar wella tegwch o ran iechyd, a llesiant meddyliol a chorfforol.

"Trwy annog ysbryd cymunedol a darparu lle i sgwrsio, rydyn ni’n cerdded ac yn siarad ein ffordd tuag at Dorfaen sy’n iachach ac â chysylltiadau gwell."

Ariennir Lluosi Torfaen gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Am ragor o fanylion am Hwb Cymunedol Coedwedd neu'r grŵp MenTalk, ewch i Cysylltu Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/01/2025 Nôl i’r Brig