Cydnabod gwaith caled gweithwyr chwarae

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Awst 2024
Summer Play awards 3

Cynhaliwyd gwobrau Haf o Hwyl Torfaen yn Eglwys Victory, Cwmbrân, ar ddydd Gwener 23 Awst.

Cyflwynwyd gwobr cyrhaeddiad hirdymor i Katy Allen sydd wedi bod yn cefnogi cynlluniau chwarae ers dros 10 mlynedd.

Katy yw'r Goruchwyliwr Safle Chwarae presennol yn Ysgol Gynradd Gymunedol Garnteg yn ystod y gwyliau, ac mae Katy hefyd yn gweithio yno yn ystod y tymor fel cynorthwyydd addysgu. Mae Katy wedi bod yn rhan o'r cynlluniau chwarae er 2014.

Roedd gwobrau eraill a gyflwynwyd ar y diwrnod yn cynnwys Gwobr Datrys Problemau, Gwobr Terry Jones i Weithiwr Chwarae Neilltuol, a Gwobr Cynthia Beynon am Gynhwysiant.

Aeth y wobr am y Safle Cynhwysol Gorau i’r tîm yn Eglwys Victory.

Aeth y wobr am y Safle Cyffredinol Gorau yn ystod 2024 i'r tîm yn Ysgol Gynradd Gatholig Mair a’r  Angylion yng Nghwmbrân (tynnu llun).

Meddai Andrea Sysum, Swyddog Polisi Chwarae Torfaen: "Dyma fy ugeinfed haf yn gweithio i'r Cyngor yn goruchwylio darpariaethau chwarae'r haf ac mae'n wych gweld cymaint o weithwyr a gwirfoddolwyr yn dod ymlaen bob blwyddyn i ennill sgiliau a phrofiad hanfodol a sicrhau bod plant yn Nhorfaen yn cael y cyfle i chwarae."

Roedd gwobrau eraill yn cydnabod gwirfoddolwyr, cynorthwywyr chwarae ifanc a goruchwylwyr safle yn ogystal â thystysgrifau ar gyfer Cymorth Cyntaf.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg ac Aelod Seneddol Torfaen, Lynne Neagle: "Mae pawb yng Nghymru, ac o bosib y DU, yn eiddigeddus o Chwarae Torfaen a darpariaeth chwarae gynhwysol Torfaen. Cofrestrwyd dros 3,000 o blant a chafodd 260 o blant ag anghenion ychwanegol fynediad i gyfleoedd chwarae ar hyd a lled y Fwrdeistref."

Meddai Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen: "Yr haf hwn roedd dros 430 o weithwyr a gwirfoddolwyr a 23 tîm o weithwyr chwarae, felly roedd dewis enillwyr ar gyfer y gwobrau yn eithriadol o anodd.  Oherwydd ein tîm craidd, cannoedd o wirfoddolwyr chwarae ifanc a'n cydweithwyr arlwyo, mae ein darpariaeth chwarae ar gyfer yr haf yn gwella o hyd, ac eleni cawsom dros 3000 o blant bob dydd."

Daeth Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds, Aelod o’r Senedd Torfaen, Lynne Neagle ynghyd â swyddogion o Gyngor Torfaen a chynghorwyr o Gyngor Torfaen a Chynghorau Tref a Chymuned y Fwrdeistref, i’r seremoni wobrwyo.

Dysgwch am weithgareddau’r Gwasanaeth Chwarae yn ystod y flwyddyn

Diwygiwyd Diwethaf: 23/08/2024 Nôl i’r Brig