Gwobr ar gyfer bwyd cynaliadwy

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 13 Awst 2024
CCYP food lessons

Mae partneriaeth sy'n helpu busnesau a grwpiau cymunedol lleol i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy wedi ennill gwobr genedlaethol.

Nod Food4Growth Torfaen yw cynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol trwy greu rhwydwaith o gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd, darparu grantiau i helpu busnesau bwyd i arallgyfeirio, a chefnogi sefydliadau i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i dlodi bwyd.

Mae'r bartneriaeth bellach wedi ennill gwobr arian gan raglen UK Sustainable Food Places, sy'n cydnabod ardaloedd sy'n gyrru arloesi ac arfer gorau ymhob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.

Meddai Leon Ballin, Rheolwr y Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy: "Mae Partneriaeth Fwyd Torfaen wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymroddgar yn cydweithio i sicrhau bod bwyd iach a chynaliadwy yn un o’r nodweddion sy’n diffinio ble maen nhw'n byw.  

"Er bod llawer i'w wneud o hyd a llawer o heriau i'w goresgyn, mae Partneriaeth Fwyd Torfaen wedi helpu i osod meincnod y gall aelodau eraill o Rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy'r DU ei ddilyn.

"Dylent fod yn falch iawn o'r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud i drawsnewid ein cyd-ddiwylliant bwyd a'n system fwyd er gwell."

Eleni, mae tîm gwydnwch bwyd y Cyngor wedi rhoi grantiau i 34 o grwpiau cymunedol a 13 busnes trwy'r bartneriaeth Food4Growth.

Cafodd Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân grant cymunedol i roi gwersi coginio i bobl ifanc, yn ogystal â gwersi cadw bwyd, pobi bara a gwneud menyn.

Mae'r ganolfan hefyd wedi defnyddio'r grant i brynu cynhwysion o Siop Fferm Monachty. Mae’r Siop Fferm hefyd wedi cael grant i ddatblygu cynhyrchion a thechnegau bwyd newydd, a chefnogi swyddi, yn ei siop fferm ym Mamheilad.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Mae'r hyn y mae'r tîm wedi'i gyflawni hyd yma yn wych, a dwi’n gwybod eu bod yn gweithio'n galed i weithio gyda chymaint o grwpiau sy'n gysylltiedig â bwyd â phosibl.

"Hoffwn eu llongyfarch am ennill y wobr hon. Mae'n dangos yr hyn y gall gwaith caled ac ymroddiad ei gyflawni."

Mae partneriaeth Food4Growth Torfaen yn cynnwys Cyngor Torfaen, Cymdeithas Wirfoddol Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac 80 o fusnesau a sefydliadau cymunedol.

Mae'r Rhaglen Gwydnwch Bwyd yn cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen a'r grantiau, cysylltwch â Food4Growth@torfaen.gov.uk neu ewch i Y Rhaglen Gwydnwch Bwyd.  

Mae'r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn bartneriaeth rhwng Soil AssociationFood Matters a Sustain. Caiff ei hariannu gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae'n cefnogi lleoedd i drawsnewid diwylliant bwyd.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/08/2024 Nôl i’r Brig