Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Hydref 2022
Wythnos yma, cynhaliwyd uwchgynhadledd partneriaid tai gyda chyfraniadau gan Gyngor Torfaen, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Bron Afon a Chartrefi Melin, ynghyd ag iechyd, datblygwyr tai a chynllunwyr lleol.
Ystyriodd yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl, sut y gallai partneriaid ar y cyd:
- Fynd ati i ddefnyddio cartrefi sydd eisoes yn bodoli, yn well
- Gwella cartrefi yn nhermau ansawdd, diogelwch a chynaliadwyedd
- Cyflwyno tir a chartrefi newydd
- Bywiogi’r farchnad dai leol
- Mynd i’r afael â fforddiadwyedd a llesiant
- Ymestyn cyllidebau a chynyddu buddsoddi
- Darparu cartrefi sy’n helpu pobl i gadw’n annibynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: "Mae'r her dai i'w gweld heddiw, ond mae angen gweledigaeth ar y cyd arnom hefyd a fydd yn mynd i'r afael â chyflenwad a fforddiadwyedd i'r genhedlaeth nesaf.
"Cartref gweddus yw'r sylfaen y mae'r holl wasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arno. Ni all plant ddysgu heb gartref sefydlog, cynnes. Mae pobl yn mynd yn sâl mewn cartrefi llaith o ansawdd gwael. Mae yna ddioddefaint pan fydd cyfran annaearol o incwm pobl yn cael ei gymryd gan gostau tai. Mae effaith toriadau tai i'w gweld drwy ein holl wasanaethau.
“Mae marchnad dai gor-boeth ar hyn o bryd, gyda phrisiau tai, cyfraddau morgeisi a rhent yn saethu i fyny, yn creu bwlch o ran fforddiadwyedd. Mae'r galw am eiddo rhent cymdeithasol yn fwy o lawer na'r cyflenwad. Felly rhaid i bob partner ddod o hyd i atebion arloesol i ddarparu opsiynau tai sy'n diwallu anghenion ein trigolion yn y dyfodol.”
Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin: “Ym Melin rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cydweithio â'n partneriaid yn yr awdurdod lleol. Mae gennym gyfnod mwy heriol o'n blaenau, ond rydym yn gwybod trwy gydweithio, y byddwn mewn sefyllfa well i gefnogi trigolion a chymunedau. Mae Uwchgynhadledd Tai Torfaen yn enghraifft wych o sut rydym yn cyflawni mwy, drwy weithio mewn partneriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y gallwn symud ymlaen gyda'r syniadau sy'n dod i’r amlwg heddiw, a chynllunio ar gyfer dyfodol tai yn Nhorfaen."
Meddai Alan Brunt, Prif Weithredwr Bron Afon: “Mae pa mor dda y mae cymdeithas yn gweithio yn dibynnu'n fawr ar ansawdd a chyflenwad cartrefi newydd. Gwnaed penderfyniad heddiw i fynd i'r afael â phroblemau y mae ein tenantiaid a'n trigolion yn eu hwynebu ac i sicrhau ein bod yn mynd ati ar y cyd i ddarparu cefnogaeth i bobl sy'n byw yn ein cartrefi trwy'r argyfwng costau byw presennol. Does dim digon o gartrefi, felly mae'n rhaid i ni ddod â mwy o gartrefi cynaliadwy o safon uchel i'r farchnad.”
Ar ddiwedd yr uwchgynhadledd, ymrwymodd partneriaid allweddol i ymrwymiadau lleol a fydd yn creu fforwm tai strategol newydd, strategaeth dai strategol newydd a chynllun gweithredu ar gyfer Torfaen.