Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 11 Ionawr 2022
Daw gostyngiad dros dro mewn oriau agor llyfrgelloedd i rym yr wythnos nesaf.
Mae’n golygu y bydd Llyfrgell Pont-y-pŵl yn cau ar fore Mawrth a phrynhawn Iau, a bydd llyfrgelloedd Pont-y-pŵl, Cwmbrân a Blaenafon yn cau’n gynnar ar ddydd Sadwrn.
Cymerwyd y penderfyniad, a gymeradwywyd gan y cabinet ym mis Tachwedd, i helpu i reoli prinder staff wrth i arolwg o wasanaeth llyfrgell Torfaen gael ei wneud.
Gall trigolion barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth Ceisio a Chasglu, a oedd y cyntaf i gael ei gyflwyno yng Nghymru y llynedd mewn ymateb i’r pandemig.
Gall pobl hŷn a’r sawl sy’n agored i niwed hefyd gofrestru ar gyfer y gwasanaeth dosbarthu Llyfrgell yn y Cartref.
Gall trigolion ddilyn y gwasanaeth llyfrgell ar Facebook drwy ddilyn @TorfaenLibraries i gael gwybod am yr amrywiol weithgareddau gwahanol.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol ar gyfer Sgiliau, yr Economi ac Adfywio: “Rydym eisiau sicrhau bod ein gwasanaeth llyfrgelloedd mewn sefyllfa dda i ddiwallu anghenion newidiol ein trigolion. I wneud hyn, mae angen i ni stopio a meddwl am sut mae’r pandemig wedi newid defnydd ac arferion cwsmeriaid. Mae gan ein llyfrgelloedd lawer mwy i’w gynnig y tu hwnt i’n casgliadau llyfrau.
“Mae’n gwneud synnwyr cwtogi’r oriau yn ystod y cyfnodau tawelach, ond rydym eisiau gwneud yn siŵr o hyd bod digon o gyfle i bobl ymweld â’n llyfrgelloedd.”
Yr oriau agor newydd ar gyfer dydd Sadwrn fydd:
Sadwrn, Pont-y-pŵl – 9am – 1pm
Sadwrn, Cwmbrân – 8:45am – 1pm
Sadwrn, Blaenafon – 10am – 2pm
Yr oriau agor newydd yn ystod yr wythnos:
Pont-y-pŵl
Llun – Ar gau fel arfer
Mawrth – 2pm-7pm
Mercher – 9am – 5pm
Iau – 9am – 1pm
Gwener – 9am – 5pm
Cwmbrân
Llun – 9am – 5.30pm
Mawrth – 9am – 5.30pm
Mercher – Closed as usual
Iau – 8.45am – 7pm
Gwener – 8.45am – 6pm
Blaenafon
Llun – Ar gau fel arfer
Mawrth – 10am – 5pm
Mercher – 10am – 5pm
Iau – 10am – 5pm
Gwener – 10am – 5pm
Mae’r cwtogiad dros dro yn oriau agor y llyfrgelloedd i gael ei arolygu yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae’n rhad ac am ddim i ymuno â’r llyfrgell – ewch â phrawf o’ch enw a’ch cyfeiriad i unrhyw un o’n llyfrgelloedd neu Ymunwch â’r Gwasanaeth Llyfrgell arlein. I gael gwybodaeth am y gwasanaethau Ceisio a Chasglu a Llyfrgell yn y Cartref, ffoniwch Lyfrgell Cwmbrân ar 01633 647676.