Mae’r Amgueddfa’n gartref i gasgliad o arteffactau lleol gydag arddangosfa arbennig o Lestri Japan, a gynhyrchwyd yn y dref o ganol y ddeunawfed ganrif. Dewch i ddysgu mwy am Barc Pont-y-pŵl a phori trwy’r casgliadau hynod o ddiddorol o fywyd y cartref yn Oes Fictoria. Mewn Bloc Stablau Sioraidd, gyda chlos canolog, mae’r fynedfa fwaog o gerrig a’r rhodfa o gerrig cobl yn creu naws hyfryd wrth i chi gychwyn eich ymweliad. Yn yr Amgueddfa mae yna gasgliad o arteffactau lleol gydag arddangosfa neilltuol o Lestri Japan, a gynhyrchwyd yn y dref o ganol y ddeunawfed ganrif. Dewch i ddysgu mwy am Barc Pont-y-pŵl a phori trwy’r casgliadau hynod o ddiddorol o fywyd y cartref yn Oes Fictoria, Dodrefn Ystafell Fwyta Glantorfaen, Eglwysi a Chapeli, hanes masnachol, gwneud clociau, Drifft Rorke a Thorfaen ddiwydiannol. Mae Oriel Barker yn prysur feithrin enw iddi’i hun am ei harddangosfeydd o gelfyddyd gain, cerfluniau a cherameg ac mae’r ardal 'Cafe Art' fechan yn safle rheolaidd ar gyfer ‘gwerthu’ darnau celf gan artistiaid lleol. Parcio am ddim, siop roddion a chaffi, a thaith fer ar droed o Barc Pont-y-pŵl a chanol y dref.