Mae’r Felin yn un o’r melinau dŵr carreg driphlyg prin i oroesi yn y wlad. Yn y felin o’r 17eg ganrif, sydd dan ofal Ffrindiau Melin Llanyrafon, mae yna lawer o arteffactau hanesyddol o’r ardal. Hoffech chi chwarae mwy o ran yn y gwaith o adfer y Felin? Beth am ymuno â grŵp y Ffrindiau, sef grŵp cymunedol lleol sy’n rhannu diddordeb yn nhreftadaeth yr ardal leol. Mae yna lefydd parcio yma ac mae’r safle’n hygyrch i ymwelwyr anabl.