Wedi ei lleoli yng nghartref bonheddwr o oes Fictoria, mae gan Faenor Llantarnam dair oriel arddangos yn dangos celfyddyd a chrefft lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Wedi ei leoli’n hwylus yng nghanol tref Cwmbrân yn agos at feysydd parcio am ddim, gorsafoedd bws a thrên. Mae ein siop grefftau yn gwerthu cerameg, gwydr, gemwaith a thecstilau gan rai o’r gwneuthurwyr gorau yn y DU. Caffi cyfeillgar yn cynnig cinio canol dydd a byrbrydau. Mynediad am ddim.