Mewn mwy na 120 erw, mae gan Fferm Gymunedol Greenmeadow amrywiaeth o anifeiliaid o dras a rhai prin y medrwch eu cyfarfod. Mae’r gweithgareddau beunyddiol yn cynnwys arddangosfeydd godro a reid ar y tractor a’r trelar. Mae gennym lawer o weithgareddau ychwanegol yn ystod gwyliau’r ysgol ynghyd â digwyddiadau tymhorol trwy gydol y flwyddyn. Mae’r Fferm yn lleoliad unigryw a chanolog sy’n addas ar gyfer unrhyw achlysur, corfforaethol neu breifat. Mae gennym amrywiol ystafelloedd a chyfleusterau ar gael, medrwn fod yn hyblyg iawn a byddwn wrth ein boddau yn gweithio gyda chi i drefnu eich digwyddiad.