Roedd Gwarchodfa Natur Llynnoedd Garn yn arfer bod yn ardal gyda hen domenni rwbel a hen weithfeydd glo ond ar ôl cynllun adfer tir helaeth, fe’i agorwyd yn swyddogol ym 1997 fel ardal hardd i drigolion ac ymwelwyr. Mae’n 40 hectar gyda llynnoedd a glaswelltir, ac yn cynnig cynefin amrywiol a thiroedd bridio i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.