Cafodd ei adeiladu gan deulu Hanbury o gwmpas 1770 a’i adfer o gwmpas 1831 ac fe’i defnyddiwyd fel gwylfa ar gyfer yr helfa leol ac fel tŷ haf ar gyfer y teulu. Mae golygfeydd gwych dros y wlad o gwmpas. Cafodd y tŵr olaf ei ddymchwel gan yr RAF yn ystod yr ail ryfel byd oherwydd ei fod yn agos at y ffatri Ordnans yng Nglascoed. Trefnwyd tanysgrifiad cyhoeddus gan gymuned Pont-y-pŵl ac fe ail-adeiladwyd y Tŵr Ffoledd, gyda Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn ei agor yn swyddogol ym 1994. Mae mynediad i’r Tŵr trwy gae a all fod yn fwdlyd, gyda da byw. Rhaid cadw cŵn ar dennyn. Efallai na fydd y Tŵr ar agor i’r cyhoedd, felly holwch yn gyntaf cyn cerdded yno i ymweld yn benodol.