Wedi'i lleoli mewn dwy gyn-ysgol diwydiannol o ddechrau'r 19eg ganrif sydd wedi'u hadfer yn hyfryd, y Ganolfan Dreftadaeth yw'r lle perffaith i ymweld â Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Mae'r Ganolfan yn cynnig ystafell ysgol ryngweithiol o gyfnod Victoria, arddangosiadau ffilm ac amlgyfrwng sydd nid yn unig yn rhoi mewnwelediad unigryw i ymwelwyr i bwysigrwydd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, ond mae hefyd yn eu cyflwyno i atyniadau niferus yr ardal. Gwnewch ddefnydd o'r Ganolfan Groeso ac ymweld â'r siop anrhegion, caffi a llyfrgell.
Agored dydd Mawrth - ddydd Sul, 10am-5pm a bodd dydd Llun Gŵyl y Banc; mynediad olaf 30 munud cyn cau. Ar gau 25 Rhagfyr - 1 Ionawr yn gynhwysol.
Mynediad: Am ddim