Dewch i ymlacio yn ein tŷ fferm heddychlon o’r 18fed ganrif sydd wedi ei leoli mewn cwrt coblog. Mae’r fferm deuluol yn gorwedd wrth ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 1/2 milltir o’r Lanfa Goetre ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.
Mae tafarn sy’n gweini prydau ardderchog o fewn taith gerdded o ddeng munud. Dwy ystafell dau wely, tair ystafell ddwbl, un ystafell deulu (pob un ag en-suite). Cysylltiad band eang ar gael.