Mae Jenny's Cottage yn gyn bwthyn glöwr diwedd teras â 3 ystafell wely sydd wedi ei leoli yng nghanol Tref Treftadaeth Blaenafon, ac mae lle parcio tu allan i ddrws y ffrynt.
Mae’r perchennog wedi adnewyddu’r bwthyn â chariad, gan ei droi yn encil cynnes a chyfforddus boed ar gyfer ymwelwyr yn ymchwilio hanes eu teulu neu bobl sy'n gweithio yn yr ardal am gyfnod byr .
Mae gan y bwthyn le cysgu i 4 o bobl a babi (1 gwely dwbl a 2 wely sengl). Mae gardd patio gaeedig â dodrefn gardd. Croesewir plant/croesewir cerddwyr. Croesewir cwn bach ufudd ond ni chaniateir iddynt fynd i fyny'r grisiau.