| Enw’r Gweithgaredd/Dosbarth/Clwb | Diwrnod (au) | Lleoliad | Manylion Cyswllt | Manylion | 
|---|
| Dysgu Oedolion yn y Gymuned | Dydd Llun – Ddydd Gwener   Rhai Sadyrnau | Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, y Briffordd, Croesyceiliog, Cwmbrân, NP44 2HF   Y Pwerdy, Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân, NP44 4SY   Y Settlement, Trosnant Street, Pont-y-pŵl, NP4 8AT | 01633 647700     01633 647647     01495 742600 | Mae dysgu oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol amseroedd, sy'n golygu y gallwch ddewis cwrs ar adeg ac mewn lle sy'n gyfleus i chi.   Dysgwch mwy am ein cyrsiau sy’n dechrau’n fuan. | 
| Dosbarth Olrhain Hynafiaid | Dydd Mawrth | Canolfan Gymuned Threepenny Bit, NP44 4SX | 01633 869227 | Gall olrhain hanes eich teulu fod yn brofiad gwerth chweil a all eich arwain ar daith gyffrous i'r gorffennol.  Mae’r holl gamau a’r penderfyniadau a wnaed gan eich cyndeidiau, yr holl flynyddoedd yn ôl wedi dylanwadu ar bwy ydych chi heddiw. Felly, i ddeall y presennol yn well, beth am fwrw golwg ar fywydau eich cyndeidiau yn y gorffennol!   Mae ein dosbarth wythnosol yn addas i unrhyw un sydd a diddordeb mewn achau hyd yn oed os ydych chi’n ddechreuwr llwyr.  Byddwn yn eich helpu a’ch tywys wrth i chi chwilio ar lein am eich cyndeidiau gan ddefnyddio gwefannau poblogaidd ac adnoddau ymchwil.  Rhannwch eich profiadau gyda phobl o’r un meddylfryd sy’n mwynhau dysgu am hanes lleol. | 
| Annette's School of Dance | Dydd LlunDydd Mawrth
 Dydd Iau
 Dydd Gwener
 Dydd Sadwrn
 | Neuadd Eglwys Llantarnam | 01633 770147 | Dosbarthiadau dawns, Ballet, Tap, Jazz, Modern, Theatr Cerdd a Chyfoes.   Athrawes gymwys gyda BBO Dance, cynigir arholiadau gyda BBO Dance.   Gan fod y dosbarthiadau wedi eu rhannu i grwpiau gallu (nid grwpiau oedran) cysylltwch ag Annette i weld amserau’r dosbarthiadau. | 
| Dosbarthiadau Celf | Dydd Iau | Canolfan Gymuned Threepenny Bit, NP44 4SX | 01633 869227 | Mae ein dosbarth Celf Dyfrlliw ar fore dydd Iau a'n Dosbarth Celf Cyfryngau Cymysg yn cael ei redeg gan y tiwtor profiadol Val Stewart. Mae Val wedi dysgu celf ers blynyddoedd lawer ac mae ganddi gyfoeth o brofiad i'w rannu.    Mae’r myfyrwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau ac yn arddangos eu gwaith yn rheolaidd mewn arddangosfeydd ac orielau lleol. | 
| Clwb Camera Blaenafon | Dydd Mawrth | Capel King Street, Blaenafon | 07971 834065 | Ydych chi’n hoffi tynnu lluniau? Ydych chi newydd ddarganfod eich bod yn gallu tynnu llun lled dda gyda’ch ffôn clyfar? Dewch i ymuno â ni yn ein clwb camera wythnosol | 
| Dosbarthiadau Ballet | Dydd Sul | Neuadd Gymuned Y Dafarn Newydd, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, NP4 0PZ | 07821915095 | Beth am wireddu breuddwydion eich plant gyda’n dosbarthiadau ballet i blant 2-8 oed.   Rydym yn cynnig dosbarthiadau ballet yr Academi Ddawns Frenhinol o'r cyfnod cyn ysgol i radd 1. Addysgir dosbarthiadau gan athrawon dawns cymwys iawn. | 
| Grŵp Lles CMIG | Dydd Mercher | Neuadd y Sgowtiaid, Llwyncelyn, Cwmbrân, NP44 7AG | 07379 314903 | Ydych chi am leihau unigrwydd cymdeithasol a chynyddu eich lles emosiynol? Ymunwch â ni bob dydd Mercher o 10:30 tan 3pm. Eisteddwch i sgwrsio, chwarae gêm fwrdd neu liwio mewn llyfr. Mae cyngor ar iechyd meddwl a phethau eraill ar gael ar gais | 
| Grŵp Coffi a Chrefftau | Dydd Mercher | Neuadd Eglwys St Gabriels, Hen Gwmbrân, NP44 3LR | 01633 482300 | Dewch i ymuno â’r grŵp cymdeithasol cyfeillgar hwn am baned a sgwrs | 
| Bore Coffi | Dydd Gwener | Eglwys Fethodistaidd Hope, Pontnewydd, Cwmbrân | 01633 870389 | Ymunwch â ni am baned o de neu goffi a sgwrs, bob dydd Gwener - 10:00 tan 11:30. Am ddim, ond gallwch ddewis rhoi cyfraniad elusennol, ond nid yw hynny’n orfodol | 
| Crefft a Phaned | Dydd Iau | Eglwys Gymunedol TLC, Two Locks Road, Cwmbrân, NP44 7HG | 07714 218304 | Dewch â’ch crefft, neu mae croeso i chi alw heibio i ddysgu crefft. Paned a sgwrs AM DDIM! Bob dydd Iau. | 
| Clwb Crefftau | Dydd Mercher | Neuadd Gymuned Tref Gruffydd   ac   Eglwys Annibynnol Tref Gruffydd | 01495 767983 | Dewch â’ch hoff grefft neu beth am ddysgu rhywbeth newydd wrth i chi sgwrsio â chrefftwyr o’r un meddylfryd.   Canllaw crosio i ddechreuwyr ac mae crefftau ailgylchu/uwchgylchu yn arbenigedd! | 
| Crafty Chatters | Dydd Mercher | Canolfan Gymuned Threepenny Bit, NP44 4SX | 01633 869227 | Ydych chi’n mwynhau creu pethau?   Mae ein grŵp Crafty Chatters yn griw cyfeillgar sy'n cwrdd â'i gilydd bob wythnos i sgwrsio, ysbrydoli a rhannu syniadau a sgiliau. Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth o greadigaethau hardd a chyfeillgarwch newydd. | 
| Grŵp Cymorth Strôc Cwmbrân | Dydd Iau | Y Caban Gwyn - Neuadd Coed Eva a Llwyncelyn,  NP44 7LG | 07913 143329 | Ymunwch â ni am gwisiau, siaradwyr, crefftau a theithiau dydd. 
 Mae'r grŵp cymdeithasol hwn yn cyfarfod bob wythnos rhwng 10.30 a 12.30.
 | 
| Dawnswyr Blaenafon | Dydd Iau | Neuadd y Gweithwyr Blaenafon | 07542 187137 | Oes gennych chi ddiddordeb yn nhraddodiadau a diwylliant Cymru? Hoffech chi gadw'n heini a chael hwyl yr un pryd?   Mae grŵp dawnsio Cymraeg newydd wedi dechrau ym Mlaenafon. DOES DIM angen profiad, byddwn yn dysgu'r dawnsfeydd i chi.   Dewch draw i fwynhau eich hun!! | 
| Go Gym gyda Valleys Gymnastics yn Stadiwm Cwmbrân | Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener Dydd Sadwrn | Stadiwm Cwmbrân | 01495 248070 | Mae angen bwcio pob dosbarth o flaen llaw.  
Mini Movers - (Dosbarth strwythuredig i Rieni a Phlant) - 2.5 - 4 oedTiny Tumblers - dechreuwyr 4 - 6 oed Junior Jumpers – dechreuwr 9+ oed Rhedeg Rhydd - 7+ oed | 
| Go Gym gyda Valleys Gymnastics yn CBE Pont-y-pŵl | Dydd Sul | Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl | 01495 248070 | Mae angen bwcio pob dosbarth o flaen llaw.  
Tiny Tumblers - dechreuwyr 3 -5 oedLittle Leapers - dechreuwyr 6+ oed | 
| Happy Hands Pont-y-pŵl gyda Lauren | Dydd LlunDydd Gwener
 | Neuadd Eglwys St Hilda’s, NP4 5JD  | 07795 115676 | Mae sesiynau difyr Happy Hands a Twinkly Toes yn annog plant i ddatblygu eu hymdeimlad â rhythm ac archwilio synau mewn amgylchedd cyffrous ac ysgogol.   Rydym yn defnyddio amrywiaeth o offer arloesol i ddatblygu creadigrwydd, dychymyg a hyder eich plentyn. | 
| Happy Hands @ CCRC gyda Louisa | Dydd Llun Dydd MercherDydd Iau
 Dydd Gwener
 | Clwb Rygbi a Chriced Croesyceiliog  | 07810 827746 | Mae sesiynau difyr Happy Hands a Twinkly Toes yn annog plant i ddatblygu eu hymdeimlad â rhythm ac archwilio synau mewn amgylchedd cyffrous ac ysgogol.   Rydym yn defnyddio amrywiaeth o offer arloesol i ddatblygu creadigrwydd, dychymyg a hyder eich plentyn. | 
| Happy Hands @ Cheeky Monkeys Cwmbran gyda Louisa | Dydd MercherDydd Gwener
 | Lle Chwarae Meddal Cheeky Monkeys, Cwmbrân | 07810 827746 | Mae sesiynau difyr Happy Hands a Twinkly Toes yn annog plant i ddatblygu eu hymdeimlad â rhythm ac archwilio synau mewn amgylchedd cyffrous ac ysgogol.   Rydym yn defnyddio amrywiaeth o offer arloesol i ddatblygu creadigrwydd, dychymyg a hyder eich plentyn. | 
| Little Hitters - Tennis i Blantos | Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Sadwrn | Parc Panteg, Tref Gruffydd | 07845 291993 | Ein nod yma yn Little Hitters yw datblygu hoffter at y gêm ac annog amgylchedd difyr, cyfeillgar i blant ddysgu a magu hyder.   Mae Tots Tennis wedi ei anelu i blantos 2.5 i 4 oed. | 
| Ymwelwyr Bach yn Widdershins | Dydd Iau | Canolfan Widdershins, Sebastopol, NP4 5AB | 01495 769264 | Ymunwch â ni yng Nghanolfan Widdershins am sesiwn ddifyr sy’n pontio’r cenedlaethau. Dewch i ganu gyda Liz.Cyfle i fwynhau 40 munud o ganu a threulio ychydig o amser yng nghwmni’r babanod a’r mamau.
 Bob pythefnos - 1.30pm-2.30pm
 | 
| Scallywaggs yn Eglwys y Goleudy | Dydd Mawrth | Eglwys y Goleudy, Sebastopol, NP4 5BR | 07725 997629 | Grŵp rhieni a phlant bach i blant dan 5 oed | 
| Sgwrs a Choffi | Dydd Gwener | Caffi Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon | 07542 187137 | Ydych chi'n siaradwr Cymraeg neu'n ddysgwr? Hoffech chi ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar? Yna ymunwch â ni yng nghaffi Canolfan Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon bob Dydd Gwener am 10 o'r gloch. | 
| Atgofion Chwaraeon | Dydd Mawrth | Cwmbran Rugby Club, NP44 1NY | 07939 154187 | Mae’r grŵp cyfeillgar hwn yn hybu lles meddyliol a chorfforol unigolion trwy ddefnyddio chwaraeon. Maent yn defnyddio hen luniau chwaraeon o’r archifau, pethau cofiadwy ac adroddiadau newyddion i sbarduno sgwrs ac atgofion a bydd yna gyfle hefyd i chwarae rhai chwaraeon hygyrch dan do, fel bowlio, boccia a dartiau llawr. | 
| Qigong Torfaen | Dydd Iau | Neuadd Eglwys St Hilda’s. Tref Gruffydd, NP4 5JD | 01495 247009 | Mae Qigong yn fath pwerus o ymarfer iechyd, sydd wedi cael ei ymarfer ers canrifoedd yn Tsieina. Mae'n seiliedig ar symudiadau ysgafn sydd wedi'u cynllunio'n benodol i fod o fudd a chydbwyso'r iechyd.   Mae Qigong yn hawdd i'w ddysgu ac yn bleserus i'w wneud. Mae arfer Qigong yn rheolaidd yn cael effaith bwerus ar y meddwl, y corff ac ysbryd.   Mae modd gwneud ystumiau ysgafn Qigong yn sefyll ar eich traed neu'n eistedd ac mae'n canolbwyntio ar ymlacio, ystwythder, rhyddhau a chryfder. | 
| Mannau Croeso Cynnes | Dydd Gwener | Eglwys Gymunedol TLC, Two Locks Road, Cwmbrân, NP44 7HG | 07714 218304 | Mae croeso i chi alw heibio am gawl poeth, rhôl a phaned o de a’r cyfan AM DDIM. Bob dydd Gwener | 
| Dosbarthiadau Coginio Well Fed | Dydd Llun | Eglwys Gymunedol TLC, Two Locks Road, Cwmbrân, NP44 7HG | 07786 289340 | Dosbarthiadau coginio am ddim gyda'r cogydd cymwys James Hunter. Dysgwch sut i bwyso, paratoi, torri a choginio cynhwysion i wneud prydau cartref blasus. Darperir yr holl gynhwysion |