Cymorth tai i bobl ifanc
Rydyn ni’n cynnig cymorth tai arbenigol i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy'n poeni am eu sefyllfa o ran tai. Gallwn helpu gyda:
- Chyfryngu i'ch helpu i barhau i fyw gydag aelodau o'r teulu
- Cymorth gan ein Swyddog Tai Pobl Ifanc
- Llety â chymorth arbenigol
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gateway@torfaen.gov.uk neu 01495 766949.
Byw ar eich pen eich hun
Os ydych chi'n barod i fyw ar eich pen eich hun, mae yna sawl peth i'w ystyried, fel ble y byddwch chi'n byw, gyda phwy y byddwch chi'n byw a sut y byddwch chi'n talu'r biliau.
Lawrlwythwch ein canllaw am ddim i fyw'n annibynnol - Setlo i mewn i'ch cartref newydd
Cymorth gyda digartrefedd
Os ydych chi’n unigolyn ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu’n byw mewn llety dros dro yn barod, gallwch gael cymorth ar unwaith gan ein Gwasanaeth Datrysiadau Tai. I gysylltu â’r gwasanaeth, anfonwch neges e-bost i housingsolutions@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 742303 / 742301.
Gofynnir i chi am eich sefyllfa o ran tai a chewch gymorth wedi'i deilwra sy’n seiliedig ar eich anghenion.
Os ydych chi'n 16 neu’n 17 oed, neu'n gadael gofal ac yn 21 oed neu’n iau, efallai y cewch eich cyfeirio at Wasanaeth Cymorth i Bobl Ifanc Torfaen (TYPSS). Gallwch gael mynediad ato trwy'r llinell ffôn ar-ddyletswydd ar 01633 647525.
Diwygiwyd Diwethaf: 04/12/2024
Nôl i’r Brig