Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor - pobl sy'n gadael yr ysgol neu'r coleg
Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.
Nid yw pobl sy'n cael eu hystyried yn rhai sy'n gadael yr ysgol neu'r coleg yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.
Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn gadael yr ysgol neu'r coleg, bydd y bil yn cael ei gyfrifo i ystyried mai 1 oedolyn sy’n byw yno. Byddai hyn yn golygu bod y bil yn 25% yn llai.
Os yw'r unig berson sy'n byw yn yr eiddo yn gadael yr ysgol neu'r coleg, Bydd y bil yn 50% yn llai.
Os ydych am i'r adroddiad hwn gael ei gofnodi yn erbyn eich proffil cwsmer, a fyddech cystal â naill ai mynd ati i greu cyfrif trwy glicio 'cofrestru nawr' neu nodwch eich manylion presennol os oes eisoes gennych gyfrif. Fel arall, os byddai'n well gennych barhau heb fewngofnodi, cliciwch 'cyflwyno adroddiad yn ddienw’.
SYLWER: Os nad yw’r ffurflen isod yn ymddangos, ac os ydych wedi dewis 'cytuno' ar y faner cwcis, cliciwch ‘diweddaru’ i ail lwytho’r dudalen. Os wnaethoch chi glicio 'anghytuno' ar y faner cwcis, yn anffodus ni fydd y ffurflen yn llwytho. A fyddech cystal â golygu eich dewis gan ddefnyddio’r eicon preifatrwydd ar waelod y sgrin neu ddefnyddio’r fersiwn arall o’r ffurflen. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 30/10/2025 
 Nôl i’r Brig