Rhoi gwybod am broblem gyda heol, palmant neu briffordd
Os ydych chi’n dod o hyd i broblem gyda heol, priffordd neu balmant yn Nhorfaen, er enghraifft ceubwll, cerrig mân rhydd, palmentydd sydd wedi torri, cerbydau sy’n croesi palmentydd neu ymylon glaswelltog sydd wedi cael eu difrodi, dylech gysylltu â ni.
Os ydych am i'r adroddiad hwn gael ei gofnodi yn erbyn eich proffil cwsmer, a fyddech cystal â naill ai mynd ati i greu cyfrif trwy glicio 'cofrestru nawr' neu nodwch eich manylion presennol os oes eisoes gennych gyfrif. Fel arall, os byddai'n well gennych barhau heb fewngofnodi, cliciwch 'cyflwyno adroddiad yn ddienw'.
SYLWER: Os nad yw’r ffurflen isod yn ymddangos, ac os ydych wedi dewis 'cytuno' ar y faner cwcis, cliciwch ‘diweddaru’ i ail lwytho’r dudalen. Os wnaethoch chi glicio 'anghytuno' ar y faner cwcis, yn anffodus ni fydd y ffurflen yn llwytho. A fyddech cystal â golygu eich dewis gan ddefnyddio’r eicon preifatrwydd ar waelod y sgrin neu ddefnyddio’r fersiwn arall o’r ffurflen.
Diwygiwyd Diwethaf: 10/05/2023
Nôl i’r Brig