Datglowch Eich Potensial gyda Rhaglen Dechrau Busnes Torfaen
Oes gennych chi syniad gwych am fusnes? Nawr yw'r amser i wireddu’ch breuddwydion!
Bob dydd Iau rhwng 3 Hydref a 28 Tachwedd
Rydym wrth ein boddau i gynnig Rhaglen Dechrau Busnes wedi'i hariannu'n llawn ac wedi'i chynllunio i'ch helpu i lansio’ch busnes a’i dyfu.
Bydd ein rhaglen, a arweinir gan arbenigwyr, yn eich tywys ar hyd pob cam o'r ffordd, gan ddarparu'r offerynnau a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch i lwyddo. Efallai eich bod chi newydd ddechrau gweithio ar syniad, neu eisiau mireinio eich cynllun busnes. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, mae ein sesiynau cynhwysfawr yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch:
- Meddwl am Syniadau
- Brandio a Marchnata
- Strategaethau Cyfryngau Cymdeithasol a Gwefan
- Gwerthu a Chyllid
- Ariannu a Materion Cyfreithiol
- Cael Trefn ar Bethau
- Model Busnes a Gwerthu’r Syniad
Ymunwch â ni i fagu’r hyder a’r sgiliau ac i gael y cymorth sydd ei angen arnoch i wireddu eich breuddwydion busnes. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fuddsoddi yn eich dyfodol!
Barod i ddechrau arni? Cysylltwch â ni heddiw am ragor o wybodaeth ac i sicrhau eich lle!
businessdirect@torfaen.gov.uk Ffôn: 01633 648735
Dyddiad: Bob dydd Iau o 3 Hydref hyd 28 Tachwedd
Amser: 09:30-13:00