Ysgol gyfun yw Croesyceiliog sydd â mwy na 1,500 o ddisgyblion, rhwng 11 a 19 oed, ar y gofrestr. O dan reoliadau Llywodraeth Cynulliad Cymru, diffinnir yr ysgol fel 'Ysgol Uwchradd Saesneg yn Bennaf'.
Crëwyd yr ysgol ym 1971 trwy gyfuno'r Ysgol Ramadeg (a agorodd ym 1959) a'r Ysgol Uwchradd (a agorodd ym 1957).
Mae pedwar adeilad yr ysgol wedi'u lleoli mewn chwe deg erw o goetir a meysydd chwarae wrth ochr Afon Llwyd.
Mae'r goedwig a'r afon yn cynnig cyfleoedd gwych i'n disgyblion wneud gwaith maes ac astudiaethau ecolegol. Crëwyd ardal gadwraeth, sy'n cynnwys dôl blodau gwyllt, gyda chymorth ein hymgeiswyr ar gyfer Gwobr (Aur) Dug Caeredin.
Mae cyfleusterau'r ysgol yn cynnwys Adeilad Chweched Dosbarth, Adeilad Celf a Thechnoleg, Swît Gerddoriaeth, dwy Stwidio Ddrama, tair Campfa, Swît Ffitrwydd o'r radd flaenaf a meysydd chwarae helaeth.
Bob blwyddyn, mae canran uchel iawn o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn aros mewn Addysg, gyda llawer ohonynt yn dewis o blith amrywiaeth o gyrsiau yn ein Chweched Dosbarth.
Mae gennym ni fwy na 90 o staff addysgu ac fe'u cefnogir gan 'Nyrs' Ysgol, Llyfrgellydd, Cynorthwywyr Addysgu, Ysgrifenyddion, Technegwyr a Gofalwyr.