Cwrs Ar-lein
Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i'r diwydiant diogelwch preifat, a'r prif wasanaethau y mae'n eu cwmpasu.
Mae'n trafod y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant, yn tynnu sylw at y safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weithredwyr diogelwch, a'r gyfraith fel y mae'n berthnasol i'r diwydiant.
Mae'n cynnwys edrych yn fanwl ar faterion iechyd a diogelwch, y cysyniad o ddyletswydd gofal ac mae'n archwilio amrywiaeth o sefyllfaoedd brys y gallai gweithredwyr diogelwch fod yn ymwneud â nhw.
Mae'r cwrs hefyd yn ymdrin â sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer cyfathrebu radio effeithiol a chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r wyddor ffonetig.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.