Gall ein cyfres o gyrsiau ar-lein rhyngweithiol yn seiliedig ar fideos gael brandio a’u dosbarthu gennych chi.
Bydd y cwrs e-ddysgu ar-lein yma, Goruchwylio Iechyd Meddwl yn y Gwaith, yn edrych ar oruchwylio straen ac iechyd meddwl yn y gwaith ac yn dangos i chi sut i greu diwylliant iechyd meddwl da yn eich gweithle.
Bydd y cwrs yn dechrau trwy edrych ar effeithiau negyddol iechyd meddwl gwael ar unigolion a bydd hefyd yn ystyried manteision niferus ymyraethau iechyd meddwl gan gyflogwyr.
Gyda’r cwrs ar-lein Goruchwylio Iechyd Meddwl yn y Gwaith, byddwch yn dysgu am y chwe phrif faes sy’n gallu arwain at straen yn y gwaith a sut i wybod pryd mae unigolion a thimau o dan straen.
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gwmnïau i asesu risgiau iechyd o ganlyniad i straen yn y gwaith, a byddwn yn dangos i chi sut i asesu’r risgiau hynny, ynghyd â sut i recriwtio a hyfforddi staff Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
Bydd y cwrs e-ddysgu Goruchwylio Iechyd Meddwl yn y Gwaith yma’n eich dysgu sut i greu diwylliant iechyd meddwl da a sut i gynnal Archwiliad Iechyd Meddwl a sut i greu Polisi a Chynllun Gweithredu Iechyd Meddwl.
Yn olaf, bydd y cwrs yn eich dysgu nifer o ffyrdd cydnabyddedig o hyrwyddo diwylliant iechyd meddwl da yn eich man gwaith.