Dewch draw i’n sesiwn Chwarae Di-ri RAD AC AM DDIM yn Go Play ar gyfer gweithgareddau a gêmau rhif difyr, actif i’ch helpu chi a’ch plentyn i wella’ch sgiliau rhif.
Cewch fwynhau dartiau rhif, nadroedd ac ysgolion, hopsgotsh, taflu bagiau ffa a mwy! Rhaid cadw’ch lle bob wythnos.
Anfonwch neges e-bost i gadw’ch lle, gan roi’ch enw, eich dyddiad geni a’ch rhif ffôn.
Mae Lluosi yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’i nod
yw helpu oedolion sy’n 19 oed neu’n hŷn a heb TGAU Mathemateg Gradd C + (neu gyfwerth) i wella’u sgiliau rhifedd. Mae cyrsiau Lluosi AM DDIM!