Cwrs Ar-lein
Mae'r cwrs hwn yn amlinellu'n union beth yw codi a chario ac yn ymdrin â'r rheoliadau a deddfwriaeth sy'n berthnasol i dasgau codi a chario.
Yna, mae'n mynd ymlaen i gynnwys technegau trin diogel a sut i ddatblygu arferion da mewn perthynas â chodi a chario.
Mae'n gorffen drwy gyflwyno rhai atebion ymarferol a defnyddio cymhorthion mecanyddol.
Nodyn pwysig: Sylwch mai cwrs ymwybyddiaeth yn unig yw hwn, os yw eich dyletswyddau'n cynnwys codi a chario, bydd angen hyfforddiant ymarferol pellach arnoch hefyd, gallwch gysylltu â ni i drefnu hyn.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.