Mae'r cwrs, sy’n gwrs E-Ddysgu ar-lein yn rhoi trosolwg o LOTO (Lockout/tagout) - yr arferion a'r gweithdrefnau diogelwch sy'n sicrhau bod peiriannau peryglus yn cael eu diffodd yn briodol tra eu bod yn cael eu trin, eu hatgyweirio neu eu cynnal a chadw.
Mae’r cwrs LOTO ar-lein yn dechrau trwy ddisgrifio system diffodd a chau i lawr, gan egluro ei bwrpas, a’r hyn y mae'n ei olygu.
Yna, mae'r cwrs E-Ddysgu LOTO yn symud ymlaen i'r mathau o beryglon a allai godi lle byddai angen diffodd a chau i lawr, ac i ddilyn hyn mae’n edrych ar y deddfau sy'n gysylltiedig â diffodd a chau i lawr, a'r cyfrifoldebau sydd gennych chi, a'ch cyflogwr, o dan y rheoliadau hyn.
Yn olaf, mae'r cwrs E-Ddysgu LOTO yn nodi proses chwe cham y mae angen i chi ei dilyn er mwyn sicrhau eich bod yn diffodd a chau i lawr yn ddiogel.
|