Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi (LOLER)

Disgrifiad:

Mae'r cwrs byr hwn yn rhoi cyflwyniad i chi i Reoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998, a elwir hefyd yn LOLER.

 

Mae'r cwrs yn dechrau drwy egluro pwrpas LOLER, cyn nodi'r hyn a olygir gan weithrediad codi. Yna mae'n darparu rhai enghreifftiau o offer y mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwmpasu.

 

Nesaf, mae'n archwilio pam mae diogelwch offer codi mor bwysig, gan fanylu ar y mathau o anafiadau y gall peiriannau eu hachosi.

Gan symud ymlaen, mae'r cwrs yn trafod gofynion cynnal a chadw offer y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy yn ôl y gyfraith. Mae'n rhoi esboniad manwl o'r hyn a olygir gan 'archwiliad trylwyr' o dan LOLER, yna mae'n edrych ar farciau offer codi a'r llwyth gweithio diogel.

 

Mae'n gorffen trwy drafod yr hyn sy’n ofynnol i’ch sefydliad yn ôl y rheoliadau o ran amddiffyn pobl ifanc.

Categori:
Addysg Gyffredinol
Lefel
None
Manylion y Cwrs
Lleoliad:
Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog
Iaith:
English
Cost:
Angen Tâl
Amserlen y Cwrs
Dyddiad Cychwyn:
04/09/2024
Dyddiad Gorffen:
04/09/2028
Expiry Date:
04/09/2029
Manylion Cyswllt:
Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024 Nôl i’r Brig