Mae Cymhwyster Lefel 2 citizenAID™ (Y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig) wedi cael ei ddatblygu’n benodol i helpu aelodau’r cyhoedd/sefydliadau sydd â diddordeb neu sydd angen ennill y sgiliau hyn i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd eithafol.
citizenAID™ yw ffrwyth llafur clinigwyr sifil a milwrol hynod brofiadol yn y Deyrnas Unedig, sy’n gweithio ar y cyd gyda diwydiannau i wella gwytnwch y cyhoedd.
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i ymateb yn fedrus mewn achos o saethu, trywanu neu fomio.
RHYBUDD: Gall cynnwys y cwrs hwn fod yn annifyr.
Gall y cwrs gynnwys cyfeiriadau graffig at sefyllfaoedd peryglus a hynny ar ffurf delwedd, clip fideo, clip sain, a/neu ddarn o destun.
Yr hyn y mae'r cwrs yn ei gynnwys:
• Ymosodwr â chyllell neu saethwr • Bom wedi ffrwydro • Eitem amheus sydd wedi ei adael • Ymosodiadau asid ac ar gerbydau • Blaenoriaethu nifer o bobl anafedig
Sylwer: Anogir dysgwyr i lawr lwytho ap citizenAID cyn mynychu.
Os nad oes gennych fynediad at ffôn clyfar, bydd copi papur ar gael.