Mae’r cwrs e-ddysgu Instagram i Fusnes ar-lein yma yn dechrau trwy edrych ar hanes Instagram i’ch helpu i ddeall sut mae wedi dod yn declyn mor rymus ar gyfer creu gwerthiant, cyrraedd pobl newydd a datblygu ymwybyddiaeth o frand.
Byddwch yn dysgu sut i greu cyfrif ac adeiladu Proffil Busnes a gwneud y mwyaf ohono yn ystod y cwrs ar-lein yma, Instagram i Fusnes.
Bydd y cwrs ar-lein Instagram i Fusnes yn ymdrin â’r math o gynnwys i’w bostio a sut i gynyddu effeithlonrwydd gyda lluniau a fideos.
Mae yna wybodaeth ynglŷn â sut i ymateb i sylwadau, defnyddio negeseuon uniongyrchol ac ail-bostio cynnwys sy’n cael ei greu gan ddefnyddwyr ac sy’n berthnasol i’ch brand er mwyn cadw sylw eich cynulleidfa.
Bydd y cwrs e-ddysgu Instagram i Fusnes yn edrych ar elfennau hanfodol strategaeth marchnata effeithiol ar Instagram a sut i gael y gwerth mwyaf o’ch cyfrif gan ddefnyddio adnabyddiaeth brand, strategaethau cynnwys, hashnodau a gweithio gyda dylanwadwyr.
Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio nodweddion ychwanegol fel hysbysebu Instagram, cysylltu ag apiau amserlenni trydydd parti a siop Instagram a thagio cynhyrchion yn ystod y cwrs ar-lein Instagram i Fusnes yma.
Mae Instagram Analytics ac Instagram Insights yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ar y platfform felly byddwn yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio’r rhain yn effeithiol yn ystod y cwrs ar-lein yma.
Yn olaf, bydd y cwrs Instagram i Fusnes yn cynnwys sut allwch chi ddefnyddio’ch canfyddiadau i ddatblygu strategaethau Instagram newydd a mwy nerthol.