Cwrs Ar-Lein
Mae diabetes yn gyflwr iechyd gydol oes difrifol sy'n digwydd pan fydd faint o glwcos, neu siwgr, yn y gwaed yn rhy uchel.
Os na fydd yn cael ei drin, mae lefelau glwcos gwaed uchel yn achosi cymhlethdodau iechyd difrifol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at bobl sy'n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a bydd yn rhoi trosolwg o'r cyflwr, y symptomau cyffredin a allai awgrymu bod gan rywun ddiabetes, dulliau diagnosis, rhai triniaethau posibl a chymhlethdodau cyffredin a all effeithio ar y rhai sydd â'r cyflwr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.