PN164 - Hysbysiad Preifatrwydd Camerâu Corff - Gwastraff
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.
Maes Gwasanaeth CBST: Yr Economi a'r Amgylchedd
Maes Gwaith: Gwastraff ac Ailgylchu
Manylion Cyswllt: Josie Perry
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Gorfodi Gwastraff
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Mae tîm Addysg a Gorfodi'r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu yn casglu data ffotograffig, fideo a sain i gynorthwyo i ddiogelu diogelwch Swyddogion, ac i gynorthwyo pan fydd angen gorfodi deddfwriaeth sy'n ymwneud â throseddau gwastraff.
Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?
Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu, ar ffurf ffilm, fideo a sain o unrhyw gyfathrebu/rhyngweithio, yn cael ei ddal fel a ganlyn:
- Tystiolaeth ffotograffig a gafwyd o'ch gwastraff
- Deunydd fideo a sain a gafodd eu dal ar offer Camera a Wisgir ar y Corff gan ein Swyddogion. Bydd unigolion yn cael gwybod bod Swyddogion yn ffilmio ar y pwynt cyswllt cyntaf.
Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?
- Ffotograffau a dynnwyd ar ddyfeisiau symudol
- Deunydd a dderbyniwyd gennych chi yn bersonol
- Chwilio gwybodaeth am y Dreth Gyngor (gan ddefnyddio cyfeiriad i adnabod preswyliwr a enwir)
- Camerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff
Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae’r Cyngor yn casglu a phrosesu ystod o wybodaeth amdanoch. Mae hyn yn cynnwys rhai o’r canlynol, neu y cyfan ohonynt yn ôl y cyd-destun:
- Enw
- Cyfeiriad cartref
- Cyfeiriad E-bost
- Rhif ffôn
- Ffilm fideo a sain o ryngweithio gyda Swyddogion
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
- Mae gennym ymrwymiad cyfreithiol
- Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus
Categorïau arbennig o ddata personol
Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond efallai y bydd hyn yn cael ei gasglu mewn fideo o gamerâu a wisgir ar y corff. Gall hyn gynnwys:
- Data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
- Data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
- Data sy’n ymwneud ag iechyd
Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.
Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond efallai y bydd hyn yn cael ei gasglu mewn fideo o gamerâu a wisgir ar y corff. Rydym yn prosesu hyn o dan Erthygl 10 GDPR y DU.
Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol, gyda’r staff priodol yn unig. Os yw’n angenrheidiol iddynt gyflawni’u dyletswyddau. Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu gyda meysydd gwasanaeth o fewn y Cyngor, fel yr adran Gyfreithiol neu Yswiriant, os oes angen hynny ar gyfer camau gorfodi neu ymchwiliadau pellach.
Efallai hefyd y bydd eich data yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau i ddibenion prosesu ymchwiliadau troseddol neu sifil neu achosion cyfreithiol. Gall y rhain gynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i:
- Heddlu Gwent Police
- Gwasanaeth y Llys
Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bod gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?
Nac ydy
Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu’n mynd ar goll, cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:
- Storfa ddiogel yn y cwmwl
- Mewn lleoliadau storio ar rwydwaith ddiogel
Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y bob trydydd parti ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau bod ganddynt fesurau priodol ar waith i sicrhau bod y data’n ddiogel.
Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.
- Mae fideo yn cael ei ddileu yn awtomatig ar ôl 30 diwrnod os nad oes ei angen fel tystiolaeth. Mae unrhyw fideo a gedwir fel tystiolaeth ar gyfer camau gorfodi neu gyfreithiol yn cael ei ddileu yn unol ag atodlenni cadw safonol.
Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda'ch data?
Nac ydym
Eich hawliau
Mae gennych chi nifer o Hawliau y gallwch eu harfer:
- Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
- Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
- Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Y Tîm Rheoli Gwastraff ar waste@torfaen.gov.uk
Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 21/05/2025
Nôl i’r Brig