PN162 - Hysbysiad Preifatrwydd Erlyniad am Golli'r Ysgol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.
Maes Gwasanaeth CBST: Plant a Theuluoedd – Addysg
Maes gwaith: Gwasanaeth Lles Addysg
Manylion Cyswllt: Sarah Allard
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Erlyniad am Golli’r Ysgol
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch chi, sut rydym yn eu defnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’r data a'r mesurau sydd ar waith i'w diogelu pan fyddwn yn prosesu erlyniadau am golli’r ysgol.
Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?
Rydym yn cael y wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn anuniongyrchol oddi wrth ysgolion.
A
Efallai y byddwn yn cael gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol gan rieni/gwarcheidwaid.
Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?
- Systemau rheoli gwybodaeth
- Gwybodaeth sy'n cael ei rhannu'n uniongyrchol gan ysgolion dros y ffôn, trwy e-bost a thrwy lythyr.
- Gwybodaeth sy’n cael ei rhannu’n uniongyrchol gan rieni sy'n cael ei chasglu dros y ffôn, trwy e-bost a thrwy lythyr.
- Porth Hysbysiadau Cosb Benodedig MRI
Pa wybodaeth mae'r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn casglu:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Enw a manylion cyswllt rhieni/gwarcheidwaid
- Manylion am bwy sy'n gofalu am y plentyn/unigolyn ifanc o ddydd i ddydd
- Ysgol bresennol
- Data am bresenoldeb yn yr ysgol
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Statws Plentyn sy'n Derbyn Gofal
- Gwybodaeth feddygol gan y meddyg ymgynghorol, y meddyg teulu a/neu’r nyrs ysgol.
- Nodiadau cyfarfodydd
- Nodiadau sgyrsiau ffôn
- Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae ysgolion yn ei darparu
Pam mae'r Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR), y seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:
(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol.
(e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus.
Deddf Addysg 1996 adran 444
Categorïau arbennig o ddata personol
Rydym yn casglu'r data categori arbennig canlynol:
- data sy'n ymwneud ag iechyd
Rydym yn casglu’r data hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.
Pwy sydd â mynediad at eich data?
Mae eich data yn cael eu rhannu'n fewnol, a hynny gyda'r staff priodol yn unig lle mae hynny'n angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni eu rolau.
Efallai y bydd eich data hefyd yn cael eu rhannu'n fewnol ag adrannau eraill ac yn allanol gyda sefydliadau at ddibenion erlyn. Gallai’r rhain gynnwys y canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt:
- Darparwyr addysg, Gofal Cymdeithasol, Teuluoedd yn Gyntaf, gwasanaethau cyfreithiol, ein tîm gweinyddu mewnol a Gov.UK Notify.
Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, dydyn ni ddim yn trosglwyddo'ch manylion i drydydd partïon oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn gyfreithiol.
A yw'r Data yn cael eu trosglwyddo allan o'r DU?
Na
Sut mae'r Cyngor yn cadw'ch data yn ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw'r data y mae'n eu prosesu yn cael eu colli, eu dinistrio'n ddamweiniol, eu camddefnyddio neu eu datgelu. Mae mynediad at y data wedi'i gyfyngu yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
Bydd data yn cael eu storio'n ddiogel mewn:
Pan fo'r Cyngor yn defnyddio trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maent yn gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae'r trydydd partïon hyn hefyd o dan ddyletswydd cyfrinachedd ac mae'n rhaid iddynt weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.
Am ba mor hir mae'r Cyngor yn cadw'ch data?
Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am y cyfnod angenrheidiol yn unig a bydd yn dilyn safonau’r sefydliad a’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw, bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.
A ydym yn gwneud penderfyniadau awtomataidd/proffilio gyda'ch data?
Na
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu defnyddio:
- Mynediad - i gael copi o'ch data ar gais
- Cywiro – ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - o dan amgylchiadau penodol, gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu eich data neu roi'r gorau i brosesu eich data, er enghraifft pan nad yw'r data’n angenrheidiol mwyach at ddibenion prosesu
- Cludadwyedd data – cael a/neu drosglwyddo'r data a roddir i'r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (lle rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod canlyniadau methu â rhoi data i'r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw Benderfyniadau Awtomataidd, gan gynnwys proffilio, a chanlyniadau hyn i chi.
- Cyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â: Sarah Allard, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl. NP4 6YB. Sarah.Allard@Torfaen.gov.uk
Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu trwy e-bost Wales@ico.org.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/08/2025
Nôl i’r Brig