PN161 - Hysbysiad Preifatrwydd Gwirfoddolwyr sy'n Codi Sbwriel
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.
Maes Gwasanaeth CBST: Yr Economi a’r Amgylchedd
Maes gwaith: Strydlun
Manylion Cyswllt: Oliver James
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Gwirfoddolwyr sy’n Codi Sbwriel
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Diben prosesu’r data hwn yw cofrestru pobl i wirfoddoli i godi sbwriel yn Nhorfaen.
Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?
Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni'n uniongyrchol gennych chi, neu eich rhiant, er mwyn prosesu eich cais i gofrestru fel rhywun sy’n codi sbwriel yn wirfoddol yn Nhorfaen.
Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?
- Ffurflen Gofrestru Ar-lein
- Wyneb yn wyneb
- Copi caled o’r ffurflen gofrestru
- E-bost
- Sgwrs dros y Cyfryngau Cymdeithasol
- Galwad MS Teams
- Sgwrs dros y ffôn
Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae’r Cyngor yn casglu:
- Enw
- Cyfeiriad a chod post
- Swydd
- Dyddiad Geni
- Rhif cyswllt y cartref
- Rhif cyswllt symudol
- Cyfeiriad e-bost
- Anabledd
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.
Categorïau Arbennig o ddata personol
Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:
- data sy’n ymwneud ag iechyd
Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.
Dydyn ni ddim yn casglu unrhyw ddata am droseddau.
Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.
Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?
Na
Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar wait hi sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:
- System rheoli dogfennau electronig ddiogel
Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.
- Hyd at 6 blynedd o’r dyddiad yr ydych yn nodi nad ydych eisiau bod yn godwr sbwriel mwyach neu o’r cyswllt diwethaf
Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?
Na
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
- Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
- Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Oliver James, Ty Blaen Torfaen, Panteg Way, New Inn, NP4 0LS and oliver.james@torfaen.gov.uk
Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 17/02/2025
Nôl i’r Brig