PN140 - Hysbysiad Preifatrwydd Taliadau Tîm 16+
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.
Maes Gwasanaeth CBST: Gofal Cymdeithasol a Thai
Maes gwaith: Gwasanaeth Cymorth Pobl Ifanc Torfaen (TYPSS) / 16+
Manylion Cyswllt: Kate Phillips - kate.phillips@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Taliadau Tîm 16+
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Mae TYPSS/16+ yn rhoi Gwasanaeth Plant Mewn Gofal ac Sy’n Gadael Gofal I bobl ifanc 16-25 oed. Mae gennym Gyfrifoldeb Rhiant dros rai pobl ifanc ac rydym yn gwneud penderfyniadau gyda nhw am eu bywydau a allai gynnwys penderfyniadau am arian.
Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?
Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi er mwyn hwyluso taliadau’n unol â’r Cynllun Llwybr.
Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol o’r Adran Waith a Phensiynau, Cyngor ar Bopeth (CAB), darparwyr Tai â Chymorth, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Llywodraeth Cymru (LlC) – mintai Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol, darparwyr Addysg, Hyfforddiant a Gwaith, Gofalwyr Maeth a/neu rieni.
Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?
- Cynlluniau Llwybr
- E-byst
- Nodiadau achosion
- Ffurflenni a gwblhawyd gan staff cymorth - electronig
- Cyfarfodydd wyneb yn wyneb
- Ffôn
Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae tîm TYPSS/16+ yn casglu:
- Enw
- Dyddiad Geni
- Cyfeiriad, gan gynnwys e-bost a rhifau ffôn
- Manylion banc
- Rhesymau dros daliad
- Cymhwyster ar gyfer arian
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Manylion Addysg Hyfforddiant a Gwaith
- Manylion teulu agosaf
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol
(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus
Categorïau Arbennig o ddata personol
Er mwyn hwyluso taliadau, dyw’r tîm ddim yn casglu unrhyw ddata categori arbennig na data troseddol, serch hynny efallai caiff hyn ei brosesu yn rhywle arall yng nghofnodion y person ifanc hwnnw. Gall hyn gynnwys:
- data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
- data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
- data sy’n ymwneud ag iechyd
- data syn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn
Mae hyn wedi ei gasglu o dan Erthygl 9 GDPR y DU.
Pan fyddwn yn casglu data troseddol, bydd hyn yn cael ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 GDPR y DU.
Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.
Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau at ddibenion sicrhau bod taliadau’n gywir. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- CPIS/LlC
- Adran Waith a Phensiynau
- LCC
- Darparwyr Tai Chymorth
- Rhieni/Gofalwyr Maeth
- Darparwyr Addysg Hyfforddiant a Gwaith
Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?
Na
Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:
- System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)
- Gyriannau rhwydwaith diogel
Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.
Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.
Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?
Na
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
- Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
- Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Kate Phillips – kate.phillips@torfaen.gov.uk - 01633 647544 neu Kirsty Jenkins – kirsty.jenkins@torfaen.gov.uk , Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost wales@ico.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023
Nôl i’r Brig