PN093 - Hysbysiad Preifatrwydd Cyfranogiad
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.
Maes Gwasanaeth CBST: UCGC
Maes gwaith: Cyfathrebu, Ymgysylltiad ac Argyfyngau Sifil Posibl
Manylion Cyswllt: getinvolved@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cyfranogiad
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ymdrin â chasglu data gan y tîm Cyfathrebu, Ymgysylltiad ac Argyfyngau Sifil Posibl at ddiben gwella gwasanaethau.
Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?
Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni'n uniongyrchol gennych chi pan fyddwch chi’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltiad.
A
Efallai byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan sefydliadau gan sefydliadau partner y BGC (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?
Rydym yn cael eich gwybodaeth gennych chi trwy:
- Gofrestriad trwy rhai teclynnau cyfranogiad ar-lein.
- Cofrestriad fel aelod o Banel Pobl Torfaen
- Ymatebion i arolygon ar-lein a phapur
- Sgyrsiau wyneb yn wyneb
Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Gan ddibynnu ar sut byddwch yn ymgysylltu â ni a’r cwestiynau yr ydym yn gofyn, efallai bydd y tîm Cyfathrebu, Ymgysylltiad ac Argyfyngau Sifil Posibl yn gofyn i chi roi gwybodaeth am:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Cod Post
- Oedran
- Rhywedd
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.
Categorïau Arbennig o ddata personol
Efallai byddwn yn casglu’r data categori arbennig canlynol, gan ddibynnu ar y weithgaredd ymgysylltiad:
- data sy’n ymwneud ag iechyd
- data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
- data sy’n ymwneud â bywyd rhywiol unigolyn
- data sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn
Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.
Nid ydym yn casglu data troseddol.
Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
Mae’r llwyfan meddalwedd mae gwefan Cymryd Rhan Torfaen yn dibynnu arni, a gweithrediadau technoleg cysylltiedig, yn cael eu darparu gan Granicus. Mae’r Polisi Preifatrwydd sy’n rheoli’u gwasanaeth ar gael ar https://granicus.com
I gael mwy o wybodaeth am bolisi preifatrwydd gwefan Dweud Eich Dweud Torfaen ewch i Polisi preifatrwydd | Cymerwch Ran Torfaen
Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol dim ond gyda’r staff priodol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.
Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau er mwyn gwella’r gwasanaeth. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Sefydliadau Partner y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC)
- Grwpiau diddordeb arbennig sy’n chwarae rhan mewn cyflenwi neu wella gwasanaethau
Efallai bydd adroddiadau heb enwau’n cael eu cynhyrchu a’u rhoi ar gael i’w gweld gan y cyhoedd ar ein gwefan.
Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?
Nac ydy
Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel yn:
- Cronfa data amgryptiedig EngagementHQ.
Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.
Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.
- Ni fydd ymatebion ymgysylltu ar-lein yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd
Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?
Na
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
- Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
- Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Neil Jones, Pennaeth Cyfathrebu, Ymgysylltiad ar Argyfyngau Sifil Posibl trwy e-bost: neil.jones@torfaen.gov.uk
Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 18/07/2025
Nôl i’r Brig