PN0065 - Hysbysiad Preifatrwydd Cynllunio a Rheoli Adeiladu
Maes Gwasanaeth CBST: Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd
Maes gwaith: Cynllunio
Manylion Cyswllt: Richard Lewis
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Cynllunio a Rheoli Adeiladu
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.go.uk
Ydyn ni wedi cael eich data personol, yn uniongyrchol oddi wrthych chi?
Mae’r rhan fwyaf o wybodaeth wedi dod yn uniongyrchol oddi wrthych chi.
Serch hynny efallai byddwn yn casglu gwybodaeth o ffynonellau eraill fel adrannau eraill yn y Cyngor neu ffynonellau cyhoeddus
Pa wybodaeth ydy’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae’r Cyngor yn casglu ac yn prosesu amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys
Enwau, Cyfeiriadau, Rhifau Ffôn a chyfeiriadau E-bost, a lluniau o eiddo
Gall y Cyngor gasglu’r wybodaeth yma mewn amrywiaeth o ffyrdd
- Ffurflenni cais, pobl sy’n cwyno, Aelodau’r Cyngor, gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus, adrannau eraill yn y Cyngor
Byddwn yn storio eich data:
- Mewn systemau ffeilio papur diogel, archifau, cronfeydd data electronig
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?
Angenrheidiol i gyflawni tasgau er budd cyhoeddus neu weithredu ar sail awdurdod sydd gan y Cyngor, gofynion statudol
Er enghraifft, i brosesu ceisiadau Cynllunio a Rheolaeth Adeiladu, cwynion gorfodaeth
Categorïau Arbennig o ddata personol
Na
Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
Gall bydd eich data’n cael ei rhannu gyda
- Adrannau eraill yn y Cyngor
- Bydd manylion ceisiadau yn cael eu cyhoeddi ar y wefan Mynediad Cyhoeddus yn unol â gofynion statudol
Mae’r Cyngor yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon oherwydd
- Er mwyn caniatáu i ni gyflawni’n dyletswyddau.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd?
Nac Ydy
Sut mae’r Cyngor yn diogelu data?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol mewn grym i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn cael ei golli, ei ddinistrio’n anfwriadol, yn cael ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu. Hefyd nid yw cyflogeion yn defnyddio’r data ac eithrio wrth gyflawni’u dyletswyddau.
Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.
Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am gyhyd ag sydd yn angenrheidiol a bydd yn dilyn safonau trefniadol ac Awdurdod Lleol yn y maes hwn.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth mewn ffordd sy’n gyson ag amserlenni cadw Awdurdod Lleol. Mae’r Gofrestr Cynllunio Statudol yn cael ei chadw am byth.
Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?
Nac Ydym
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- gweld a chael copi o’ch data ar gais
- mynnu bod y cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- cael gwybod y cyfnod amser y bydd y data’n cael ei gadw
- yr hawl i hygludedd data
- yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg
- yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
- canlyniadau eich bod yn methu darparu data i’r Cyngor
- bodolaeth penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â Chynllunio a Rheolaeth Adeiladu, planning@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 17/07/2023
Nôl i’r Brig