PN026 - Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Ailsefydlu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.
Maes Gwasanaeth CBST: Oedolion a Chymunedau
Maes gwaith: UCGC - Cydraddoldebau, Diogelwch Cymunedol
Manylion Cyswllt: Christopher.hunt@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Rhaglen Ailsefydlu
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Defnyddir y wybodaeth a gesglir o dan y Rhaglen Ailsefydlu i roi’r cymorth cywir i bob teulu a ail-leolir yn y Fwrdeistref. Mae’n cynnwys datblygu cynlluniau cymorth holistaidd ar gyfer y cyfnod ar ôl cyrraedd sy’n cynnwys gwasanaethau fel iechyd ac addysgu a’r sawl a gomisiynwyd i ddarparu’r cymorth, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhain.
Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?
Fel awdurdod lleol sy’n cymryd rhan yn y broses o ailsefydlu ffoaduriaid, rydym yn cael gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru am bob achos a groesawir i’r Fwrdeistref. Caiff y wybodaeth hon ei dal pan fydd rhywun yn cofrestru diddordeb i gael ei ailsefydlu, naill ai gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR) – asiantaeth gyfryngu (yn achos Cynllun Ail-leoli’r Rheiny sy’n Agored i Niwed, Cynllun Ailsefydlu’r DU, Cynllun Polisi Ail-leoli a Chymorth i Bobl Affganistan, Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan) neu trwy UKVI a Llywodraeth Cymru (lle bo’r unigolion wedi cyflwyno cais am fisa yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcrain). Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth gan asiantaethau eraill sy’n cefnogi ffoaduriaid.
Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?
Nid yw’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol; mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu gan Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref. Caiff ei lanlwytho i borth ar-lein diogel ac yna mae’r Cyngor yn cael mynediad ati. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth trwy:
- Sgyrsiau ar lafar
- E-bost
- Cyfarfodydd wyneb yn wyneb
Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
- Enw
- Dyddiad Geni / Oed
- Cyfeiriad
- Rhyw
- Ethnigrwydd
- Crefydd
- Cenedligrwydd
- Cefndir personol
- Meddygol
- Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer noddwyr/lletywyr (cynllun Cartrefi i Wcrain)
- Manylion banc ar gyfer lletywyr (cynllun Cartrefi i Wcrain)
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.
Categorïau Arbennig o ddata personol
Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:
- data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig • data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
- data sy’n ymwneud ag iechyd
Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.
Lle byddwn yn casglu data troseddol, at ddibenion gwirio noddwyr a lletywyr ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcrain, cânt eu prosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU.
Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
Bydd eich data’n cael eu rhannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle bont yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad eu rolau.
Efallai y bydd eich data hefyd yn cael eu rhannu’n allanol gyda darparwyr gwasanaethau a gomisiynir i ddarparu agweddau ar gymorth. Gallai’r rhain gynnwys y canlynol ond nid ydynt wedi eu cyfyngu at y rhain:
- Darparwyr y cymorth gweithiwr achos
- Darparwyr addysg Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn y cartref
- Iechyd
- Yr Heddlu
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Llywodraeth Cymru/Y DU
Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofynion cyfreithlon i wneud hynny.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?
Na
Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar wait hi sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU. Bydd data’n cael eu storio’n ddiogel mewn:
- cronfa ddata TG ddiogel a ddarperir gan Civica, sydd ag ardystiad ISO 27001
- system rheoli cofnodion ddiogel
Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon yma ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.
Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.
- Hyd at 6 mlynedd ar ôl sefydlu/setlo
Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?
Na
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
- Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
- Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Chris Hunt, Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol, christopher.hunt@torfaen.gov.uk, 01495 766097 or 07961558470
Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 08/12/2023
Nôl i’r Brig