PN021 - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgysylltu a Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Uned Cefnogi Gwasanaethau Cyhoeddus
Maes gwaith: Ymgysylltu a Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc
Manylion Cyswllt: Philip Wilson - E-bost: philip.wilson@torfaen.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Ymgysylltu a Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn dweud wrthych chi pam fod y tîm Cyfranogiad yn gofyn am wybodaeth bersonol, pa wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani a beth yr ydym yn gwneud â’r wybodaeth honno.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni'n uniongyrchol gennych chi neu gan eich rhiant / gwarcheidwad (os ydych o dan 18 oed). Gallwn hefyd dderbyn gwybodaeth arall yn anuniongyrchol gan wasanaeth partner yr ydym yn gweithio â nhw fel Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen neu Ofalwyr Ifanc Torfaen. Rydym yn casglu’r wybodaeth i sicrhau bod unrhyw weithgareddau yr ydym yn cynllunio yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ddiogel. Er enghraifft, rydym yn gofyn a oes gennych chi unrhyw alergeddau neu broblemau iechyd.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Byddwn yn danfon ffurflen ganiatâd atoch chi ar-lein neu’n bersonol
  • Ffurflen ar-lein
  • E-bost
  • Llythyr trwy’r post
  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Wyneb yn wyneb
  • Ffôn
  • Arolygon

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Tîm Cyfranogiad yn casglu:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad
  • Eich dyddiad geni
  • Manylion cyswllt
  • Unrhyw alergeddau neu broblemau iechyd
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng
  • Manylion meddyg
  • Unrhyw wybodaeth berthnasol arall yr ydych wedi dewis ei rhoi wrth ymgysylltu â ni

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(b) Mae gennym rwymedigaeth gytundebol.

(e) Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Nodwch os gwelwch yn dda y byddwn efallai’n gofyn am ganiatâd i ymgysylltu â’r gwasanaeth neu i rannu gwybodaeth gyda darparwyr. Serch hynny, nid caniatâd yw’r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol.

Categorïau Arbennig o ddata personol

Rydym yn casglu’r data categori arbennig canlynol:

  • data’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Caiff eich data eu rhannu'n fewnol gyda'r staff priodol yn unig, a hynny lle bo angen gwneud hynny er mwyn iddynt gyflawni eu rolau.

Gellir rhannu data dienw yn allanol â sefydliadau at ddibenion adrodd, gwella gwasanaethau a gwaith dadansoddi ystadegol. Gall y rhain gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Canolfan TOGS
  • Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Melin
  • BronAfon

Efallai hefyd y bydd adroddiadau dienw yn cael eu cynhyrchu ac ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar ein gwefan.

Ar wahân i'r rheiny a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i drydydd partïon oni bai bod gofyniad cyfreithiol i ni wneud hynny.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn cael ei golli, ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:

  • Ffeil wedi ei ddiogelu ar rwydwaith diogel

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Er enghraifft, os ydych chi’n cymryd rhan yn un o’n teithiau yn 11 oed, byddwn yn cadw’ch ffurflen ganiatâd a manylion y daith hyd nes y byddwch yn 21 oed yn unol â chyfarwyddyd cyfreithiol

Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Philip Wilson, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl Torfaen. NP4 6YB. E-bost - philip.wilson@torfaen.gov.uk.

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/07/2024 Nôl i’r Brig